´óÏó´«Ã½

Rhaid peidio dawnsio... gan Emyr LewisCefndir a chyd-destun

Caerdydd yw prif gymeriad y gerdd hon gan Emyr Lewis sy’n ymdrin â thema amser. Mae’r bardd yn trafod sut mae amser yn rheoli ein bywydau a sut mae terfynau amser yn ein cadw rhag teimlo’n gwbl rydd.

Part of Llenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Cefndir a chyd-destun

Mae’r dilyniant yn sôn am gariad y bardd at ddinas Caerdydd, ei a’i gwendidau. Trwy’r dilyniant o gerddi mae dau fath o amser yn bodoli, amser swyddogol y cloc a’r amser y dychymyg, sef breuddwydio a hel atgofion.

Yn ‘Rhaid peidio dawnsio...’ gwelwn yn glir sut mae dynion yn gosod rheolau a’r rheiny’n rhai o fewn amser, ee fel parcio ar y stryd ac ati.

Pennill un

Mae camerâu cylch cyfyng (CCTV) yr Heddlu Cudd a’r Cyngor yn gwylio pawb trwy’r amser. Mae dawnsio’n cael ei wahardd yng Nghaerdydd ar adegau penodol: rhwng wyth a deg y bore. Rhestrir yr holl lefydd lle na chaiff pobl ddawnsio – na stryd na pharc na heol. Mae’r ‘n²¹â€™ yn tynnu sylw at y rheolau caeth.

Pennill dau

Mae mwy o reolau a chyfyngiadau amser yn cael eu cyflwyno, er enghrafft cyfyngu dawnsio i chwarter awr mewn sgidiau coch rhwng deg ac un ar ddeg. Mae’r bardd yn dweud hyn er mwyn tynnu sylw at y ffaith fod rhai rheolau’n hollol wirion a bod gormod o waharddiadau ar bawb rhag gwneud cymaint o bethau. Mae’n pwysleisio’r ar ddawnsio i wrthgyferbynnu gyda’r syniad sydd ganddo drwy weddill y dilyniant o ddawnsio’n rhydd tu allan i ffiniau amser a rheolau.

Pennill tri

Ar ddiwedd y gerdd pan fo’r camerâu wedi rhewi, daw ysbrydion o’r gorffennol sy’n byw tu allan i amser i ddawnsio ar y stryd a herio’r rhai sydd mewn . Mae’n eironig fod y niwl a’r , elfennau o fyd natur, wedi dod i osod eu gwaharddiad eu hunain ar y camerâu dros dro er mwyn caniatáu dawns y sodlau noethion.