´óÏó´«Ã½

Rhaid peidio dawnsio... gan Emyr LewisNeges ac agwedd y bardd

Caerdydd yw prif gymeriad y gerdd hon gan Emyr Lewis sy’n ymdrin â thema amser. Mae’r bardd yn trafod sut mae amser yn rheoli ein bywydau a sut mae terfynau amser yn ein cadw rhag teimlo’n gwbl rydd.

Part of Llenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Neges ac agwedd y bardd

Neges

Neges y bardd yw bod amser yn pasio’n o gyflym ac mae’r cloc yn dal i dician trwy gydol ein bywydau. Mae amser yn feistr arnom i gyd. Weithiau mae’n rhaid cipio cyfleoedd i ddawnsio a breuddwydio tu allan i reolau amser a chonfensiwn cyn iddi fynd yn rhy hwyr. Yr eironi yw na fedrwn ni ddim osgoi byw tu fewn i ffiniau amser hyd yn oed pan rydyn yn dianc i fyd ein dychymyg a’n breuddwydion.

Thema

Amser yw’r thema amlwg yn y gerdd, ond mae dau wahanol fath: amser y cloc sy’n ein caethiwo tu fewn i funudau ac oriau, ac amser breuddwydio, sy’n ein gollwng yn rhydd i fyd y dychymyg. Mae’r ddelwedd o ddawns yn llifo drwy’r dilyniant i gyd, dawnsio’n rhydd o afael rheolau amser a bywyd.

Question

Sut mae’r bardd yn cyfleu thema amser yn y gerdd?