Gosod y cyflymdra
Nid cyflymdra dy waith yn unig sy鈥檔 bwysig, ond ei rythm hefyd. Mae amrywio鈥檙 cyflymder yn sicrhau bod y daith ddramatig yn fwy cyffrous i鈥檙 gynulleidfa. Os ydy rhythm a chyflymder dy waith yn aros yr un fath drwyddo, bydd y perfformiad hefyd ar un lefel, heb gyffro. Meddylia am gynyddu鈥檙 cyflymder wrth i ti agos谩u at yr uchafbwynt.
Yn yr un modd mae cymryd mwy o amser mewn rhai golygfeydd a defnyddio seibiannau dramatig yn gallu creu tyndra a thynnu dy gynulleidfa i mewn. Mae strwythur yn effeithio ar gyflymder hefyd. Bydd llawer o olygfeydd byr wedi eu cysylltu鈥檔 gyflym, yn creu taith gyflym, llawn egni i鈥檙 gynulleidfa. Ar y llaw arall bydd golygfeydd hirach sy鈥檔 adeiladu鈥檔 arafach at yr uchafbwynt yn brofiad gwahanol. Cofia ystyried cyflymdra wrth strwythuro dy ddrama ac wrth weithio鈥檔 fanwl ar y golygfeydd.
Rhoi cynnig ar bethau
Ffordd dda i arbrofi gyda strwythur dy waith ydy ysgrifennu pob golygfa ac amlinelliad cryno o鈥檌 chynnwys ar ddarn o bapur ar wah芒n. Taena鈥檙 papurau o dy flaen a鈥檜 haildrefnu nes i ti ddod o hyd i drefn rwyt ti鈥檔 teimlo sy鈥檔 creu taith ddramatig gyffrous a diddorol drwy dy waith. Rho gynnig ar bethau鈥檔 ymarferol i weld sut mae newid y strwythur yn newid effaith dramatig dy waith. Mae adborth yn bwysig iawn ar y lefel hon, neu gallet ti ffilmio鈥檙 gwaith a鈥檌 wylio鈥檔 么l a dadansoddi effaith y newidiadau strwythurol ar dy waith.