Profi dy wybodaeth am strwythur dramatig
Gwylia'r olygfa hon o ddrama S4C a 大象传媒 Cymru Wales, Y Gwyll/Hinterland, ateba鈥檙 cwestiynau a chymhara dy atebion 芒鈥檙 ateb enghreifftiol.
Question
Ydy鈥檙 golygfeydd hyn wedi鈥檜 cyfleu mewn ffordd linellol neu anllinellol? Rho reswm am dy ateb.
Mae鈥檙 golygfeydd hyn yn cael eu cyfleu mewn ffordd linellol gan fod y stori鈥檔 cael ei hadrodd mewn trefn gronolegol a dydy hi ddim yn symud o鈥檙 gorffennol i鈥檙 dyfodol. Does dim 么l-fflachiadau yn cael eu defnyddio chwaith.
Question
Sut fyddet ti鈥檔 newid trefn y gyfres isod o olygfeydd i greu plot anllinellol? Galli di ychwanegu golygfa os wyt ti鈥檔 dymuno.
- Golygfa 1: Mathias yn gyrru yn y nos
- Golygfa 2: Mathias yn cerdded drwy'r gors
- Golygfa 3: Mathias yn clywed rhywun arall yn y gors
- Golygfa 4: Mathias yn rhedeg drwy'r gors
- Golygfa 5: Mathias yn cael ei daro ar ei ben
Byddwn i鈥檔 newid trefn gronolegol y golygfeydd ac ychwanegu tair golygfa 么l-fflach:
- Golygfa 1: Mathias yn rhedeg drwy'r gors.
- Golygfa 2: Mathias yn cael ei daro ar ei ben.
- Golygfa 3: 脭l-fflach i Mathias yn gyrru yn y nos.
- Golygfa 4: 脭l-fflach i Mathias yn cerdded drwy'r gors.
- Golygfa 5: 脭l-fflach i Mathias yn clywed rhywun arall yn y gors.
- Golygfa 6: Torri yn 么l i'r presennol a dangos Mathias yn gorwedd ar y llawr.
Question
Sut caiff tyndra dramatig ei gyfleu yn y gyfres hon o olygfeydd?
Mae鈥檙 tyndra dramatig yn adeiladu鈥檔 gynnil drwy鈥檙 darn. Mae鈥檙 gynulleidfa鈥檔 teimlo鈥檙 tyndra o鈥檙 amser mae Mathias yn clywed rhywun arall yn y gors. Mae'r ffaith ei bod hi'n nos gyda'r tywyllwch yn ei gwneud hi'n anodd iddo weld pwy sy'n ei ddilyn hefyd yn ychwanegu at y tyndra. Gan nad ydy'r gynulleidfa'n gallu gweld y person arall chwaith, mae hyn hefyd yn dwys谩u'r teimlad o dyndra a dirgelwch.
Mae鈥檙 gerddoriaeth gafodd ei dewis yn helpu i greu鈥檙 tyndra yn ogystal. Mae'n adeiladu at uchafbwynt wrth i Mathias redeg ar 么l person drwy'r gors. Mae鈥檙 golygfeydd i gyd yn fyr sy鈥檔 helpu gyda chyflymder y stori sydd unwaith eto鈥檔 ychwanegu at yr awyrgylch anesmwyth mae鈥檙 cyfarwyddwr yn amlwg yn ceisio ei greu.
Question
Pam mae tyndra dramatig yn ddyfais mor effeithiol wrth adrodd stori?
Mae tyndra dramatig yn ddyfais effeithiol wrth adrodd stori gan ei fod yn creu disgwyliadau neu gyffro鈥檙 gynulleidfa yngl欧n 芒 chanlyniadau鈥檙 digwyddiadau mewn drama. Mae creu鈥檙 tyndra yn sicrhau bod y gynulleidfa yn awyddus i wybod beth sy鈥檔 digwydd nesaf ac mae鈥檔 rhan bwysig o stori dda.