Effeithiolrwydd naratif anllinellol
Does dim byd am y naratif wedi newid, ond mae wedi ei dorri鈥檔 naratif anllinellol. Mae rhannu鈥檙 naratif yn y ffordd hon yn golygu bod y stori鈥檔 cael ei datgelu fesul darn fel jig-so i鈥檙 gynulleidfa. Mae creu鈥檙 gwrthdrawiad car mewn ffordd arddulliedig yn ffordd dda o wneud iddo weithio mewn gofod theatr lle mae鈥檔 anodd iawn ei lwyfannu鈥檔 naturiolaidd neu鈥檔 gredadwy.
Mae monolog Lleucu鈥檔 fodd o adrodd y stori ac yn rhoi golwg i ni ar ei theimladau felly rydym ni鈥檔 cydymdeimlo mwy 芒 hi. Mae atal y gweithredu ac ychwanegu araith uniongyrchol gan ffrindiau Lleucu yn cadw鈥檙 cwestiwn am eu cyfrifoldeb nhw wrth galon y darn.
Mae defnyddio Theatr Gorfforol a dyfeisiau annaturiolaiddUnrhyw fath o theatr lle does dim rhith o realiti ar y llwyfan. Mae'n amlwg bod yr actorion yn cyflwyno syniad neu stori. megis golygfa鈥檙 hunllef, rhewi鈥檙 ddrama ayyb yn golygu bod yr actorion yn gallu chwarae mwy nag un r么l yn fwy effeithiol. Mae hefyd yn ei gwneud yn haws sefydlu amrywiaeth o leoliadau. Mae defnyddio 么l-fflach yn caniat谩u i ni atal anghrediniaethCredu rhywbeth sydd dim yn wir, yn enwedig er mwyn mwynhau ffuglen..
Mae鈥檙 strwythur anllinellol wedi creu gwaith mwy episodig ag iddo neges gryfach i鈥檙 gynulleidfa, ac mae defnyddio symbolaethDefnyddio gwrthrych neu ddelwedd i gynrychioli rhywbeth arall. Cyfleu syniad mewn modd barddonol/symbolaidd yn hytrach na llythrennol. ac araith uniongyrchol yn ei gryfhau.
Tyndra dramatig
Mae adeiladu鈥檙 tyndra yn golygu bod y gynulleidfa yn awyddus i wybod beth sy鈥檔 digwydd nesaf ac mae鈥檔 rhan bwysig o stori dda. Wrth ddyfeisio drama rhaid i ti ystyried sut a lle y gallet ti greu tyndra yn dy waith. Gall adeiladu鈥檔 araf a chyson at uchafbwynt, sef y darn pwysicaf neu fwyaf cyffrous, fod yn ddefnyddiol wrth greu tyndra. Mae cyswllt agos rhwng tyndra a chyflymder dy berfformiad. Er enghraifft pe bai cyflymder dy waith yn cael ei arafu gan newidiadau golygfa neu wisgoedd lletchwith, gallai ymdeimlad y gynulleidfa o dyndra fynd ar goll. Mae鈥檙 ddrama Crash gan Sera Moore Williams yn enghraifft dda o awdur yn gwneud yn si诺r bod tyndra dramatig yn cynyddu鈥檔 effeithiol drwy鈥檙 darn.