Dewis strwythur
Meddylia am linell stor茂ol neu naratif dy ddarn. Oes gen ti un stori neu fwy nag un? Os oes gen ti un naratif clir mae鈥檔 debygol y bydd ganddo ddechrau, canol a diwedd. Y gair am ddiwedd y stori sy鈥檔 rhedeg yn y drefn hon ydy dadleniad.
Y dadleniad ydy鈥檙 funud y mae鈥檙 stori yn cyrraedd y canlyniad a chaiff popeth ei ddatrys i鈥檙 gynulleidfa. Mewn comedi, bydd y dadleniad yn golygu datrys problem, ond mewn trasiedi mae鈥檙 dadleniad yn 鈥榙rychineb鈥 gyda chanlyniad anhapus i鈥檙 prif gymeriadau.
Drama anllinellol
Mae rhedeg golygfeydd mewn trefn cronolegolTrefn resymegol digwyddiadau o'r dechrau i'r canol i'r diwedd. yn golygu bod strwythur llinellol gen ti. Mae dy stori鈥檔 rhedeg mewn llinell o'r dechrau i鈥檙 diwedd. Mae hwn yn strwythur da ar gyfer gwaith naturiolaiddMath o theatr sydd wedi ei chynllunio i greu rhith realiti ar gyfer y gynulleidfa. Dechreuodd tua diwedd y 19eg ganrif., gan adeiladu at uchafbwynt naturiol gyda dadleniad sy鈥檔 bodloni鈥檙 gynulleidfa.
Drama anllinellol
Dyma ddrama lle nad ydy鈥檙 naratif yn rhedeg mewn llinell syth ond yn symud mewn amser. Dyw hi ddim yn gronolegol. Mae drama Tennessee Williams The Glass Menagerie, neu鈥檙 addasiad Cymraeg ohoni Pethau Brau, yn enghraifft ragorol o hyn. Mae鈥檙 ddrama wedi ei gosod mewn cyfnod sydd rai blynyddoedd ar 么l yr Ail Ryfel Byd ond mae鈥檙 cymeriadau鈥檔 symud yn 么l a blaen mewn amser i鈥檙 1930au ac yn dychwelyd i鈥檙 presennol. Mae hyn yn digwydd heb newidiadau i鈥檙 set na鈥檙 olygfa. Mae cymeriadau鈥檔 ymddangos ar y llwyfan yn achlysurol, nid fel rhan o鈥檙 olygfa ond yng 鈥榥ghof鈥 cymeriad arall.
Ystyria ddefnyddio strwythur anllinellol:
- os oes mwy nag un naratif yn dy ddarn
- os byddi di鈥檔 creu gwaith Theatr Mewn Addysg
- os byddi di鈥檔 creu gwaith yn arddull Brecht neu unrhyw ymarferwr theatr annaturiolaidd arall
- os byddi di am greu eironi dramatig (lle mae鈥檙 gynulleidfa鈥檔 gwybod beth sy鈥檔 mynd i ddigwydd ond dydy鈥檙 cymeriadau ddim)
- os byddi di am i鈥檙 gynulleidfa ddyfalu neu barhau i feddwl am neges drwy鈥檙 ddrama
- os byddi di鈥檔 defnyddio amrywiaeth o arddulliau yn dy waith