Gwella dy ddealltwriaeth o waith llais
Ateba鈥檙 cwestiwn a chymharu dy ateb 芒鈥檙 ateb enghreifftiol.
Question
Rwyt ti wedi cael rhan person ifanc pwdlyd mewn drama gomedi sydd wedi ei gosod yng Nghaernarfon. Pa ddewisiadau lleisiol fyddet ti鈥檔 eu gwneud i lunio cymeriad effeithiol?
Gan fod y ddrama wedi ei gosod yng Nghaernarfon, fe fyddwn i鈥檔 gwybod ar unwaith y byddai鈥檙 cymeriad fwy na thebyg yn siarad gydag acen ogleddol benodol y 鈥楥ofi鈥 (oni bai fod y dramodydd wedi nodi bod y cymeriad yn dod yn wreiddiol o rywle arall).
Mae鈥檙 cymeriad yn ei arddegau felly byddai cywair y llais yn ysgafnach ac yn feddalach, heb fod mor ddwfn ac aeddfed 芒 rhywun h欧n.
Mae personoliaeth y cymeriad yn cael ei ddisgrifio鈥檔 bersonoliaeth 鈥榖wdlyd鈥 sy鈥檔 golygu y bydd ei hwyliau鈥檔 si诺r o amrywio鈥檔 sylweddol o olygfa i olygfa. Byddai fy newisiadau鈥檔 adlewyrchu hyn. Byddai鈥檙 llais yn uwch ac yn sgrechlyd pan fyddai鈥檙 cymeriad yn flin ac yn is ac yn fwy o fonoton os ydy鈥檔 pwdu. Mae鈥檔 hawdd cael eich temtio i fwmial a cholli ynganiad wrth bortreadu rhywun yn ei arddegau. Gallai鈥檙 cymeriad fod yn ddiog yn y ffordd mae鈥檔 siarad, ond rhaid peidio 芒 cholli ynganiad cywir neu bydd y gynulleidfa鈥檔 methu clywed y ddeialog yn iawn.
Gan fod y ddrama鈥檔 gomedi, fyddai hwyliau drwg y cymeriad ddim yn datblygu i fod yn drasiedi tywyll felly byddai鈥檔 rhaid i鈥檙 dehongliad lleisiol cyffredinol sicrhau bod y comedi鈥檔 cael ei fynegi i鈥檙 gynulleidfa. Gallai nodweddion lleisiol penodol helpu gyda hyn, megis ochneidio鈥檔 faith a thwtian wrth ymateb i gymeriad sy鈥檔 oedolyn.