大象传媒

Defnyddio dy laisYmarfer rhythm Joshua Steele

Ystyria yr holl elfennau lleisiol sydd ar gael i ti eu defnyddio. Meddylia am acen a natur dy gymeriad, a'r math o berfformiad sydd ei angen. Gallai ymarfer a gwella dy ynganiad a dy anadlu.

Part of DramaSgiliau perfformio

Ymarfer rhythm Joshua Steele

Mae hwn yn ymarfer rhagorol ar gyfer gwella鈥檙 ffordd rwyt ti鈥檔 seinio cytseiniaid ffrwydrol a chytseiniaid eraill er mwyn eu hatal rhag bod yn wan.

Seinia gytsain yn unol 芒鈥檙 rhythm. Mae /// yn nodi curiad tawel neu saib.

Diagram i ddangos ymarfer rhythm Joshua Steele yn defnyddio'r llythyren 't'

Rho gynnig ar hyn gyda chytseiniaid eraill, megis d, s, g a f. Gallet ti wneud hyn gydag unrhyw lythyren. Canolbwyntia ar gadw鈥檙 sain yn glir ac yn gywir. Pan fyddi di wedi ei feistroli, ceisia gyflymu a pharhau i seinio鈥檔 dda.

Pan fyddi di鈥檔 gwneud yr ymarfer gyda seiniau ffrwydrol, rho gynnig arni gyda llais a heb lais. Mae 鈥榞yda llais鈥 yn golygu dy fod yn gwthio anadl dros y sain fel pe baet ti鈥檔 ei siarad ac mae 鈥榟eb lais鈥 yn golygu nad wyt ti鈥檔 defnyddio anadl ond yn gadael i symudiadau dy geg greu鈥檙 sain.

Cwlwm tafod

Mae cwlwm tafod yn ffordd ragorol o wella ynganu. Rho gynnig ar y rhain:

  • Rowliodd Lowri lawr yr allt
  • Llanfairpwllgwyngyll-gogerychwyrndrobwll-llantysilio-go-go-goch
  • Mae Llywelyn o Lanelli wedi llyfu llawer o lyffaint
  • Oer yw鈥檙 eira ar Eryri

Ceisia ailadrodd pob un hyd nes bod dy wefusau a dy dafod yn teimlo鈥檔 flinedig. Cyflyma ac arafa fel bo angen.

Darluniad o ddyn yn eistedd gyda'i dafod allan, wrth ochr llyffant sy'n dweud "Mae Llywelyn o Lanelli wedi llyfu llawer o lyffaint!

Related links