Natur Theatr Gorfforol
Ar ei symlaf, gallet ti ddiffinio Theatr Gorfforol fel math o theatr sy'n rhoi pwyslais ar symud yn hytrach na deialog, ond mae nifer fawr iawn o amrywiadau. Mae'r genreSteil neu gategori o gerddoriaeth, celf neu lenyddiaeth. yn cwmpasu amrywiaeth eang iawn o waith. Ond yn ei hanfod mae Theatr Gorfforol yn golygu unrhyw beth sy'n gosod y corff dynol yng nghanol y broses o adrodd stori. O ganlyniad mae'n aml yn haniaetholY gwrthwyneb i bortreadu rhywbeth mewn modd realistig ydy portread haniaethol, lle mae cymeriad neu gysyniad yn cael ei symboleiddio mewn ffordd farddonol yn hytrach nag yn llythrennol. ei harddull, gan ddefnyddio symudiadau mewn modd arddulliedigYmdrech i ychwanegu at olygfa drwy ddefnyddio dulliau annaturiol. a cynrychioliadolDarlunio realiti neu ryw agwedd ar fywyd go iawn. . Gan fynegi syniadau drwy goreograffu symudiadau, ychydig iawn o ddeialog mae perfformwyr o'r fath yn ei defnyddio, os o gwbl.
Gellir dadlau bod DV8 ymhlith y prif ymarferwrRhywun sy'n arfer neu sydd wedi ysgrifennu am elfennau theatrig ac sydd 芒 ffurf theatrig ddiffiniadwy yn perthyn i'w theatr. Theatr Gorfforol fel ffurf 'lawn' ar gelfyddyd. Mae鈥檔 canolbwyntio ar edrych ar y potensial dramatig y gellir ei ddatgloi o symudiadau. Mae eu gwaith yn aml yn cael ei ddisgrifio fel gwaith sydd ar groesffordd lle mae dawns, sain a drama yn cyfarfod.
Yng nghynhyrchiad DV8, Can We Talk About This?, defnyddiodd y cyfarwyddwr a'r perfformwyr Theatr Gorfforol i fynegi materion gwleidyddol a chymdeithasol hynod o gymhleth ac anodd eu trin. Roedd prif thema'r cynhyrchiad yn edrych ar amlddiwylliannaethCydnabod a pharchu gwerth yr holl ddiwylliannau o fewn cymuned/cymdeithas., ymwahaniaethCadw diwylliannau ar wah芒n ac yn annibynnol ar ei gilydd. Gallai ymwahanwr gredu mai ei diwylliant nhw sydd oruchaf neu'n ffordd well o fyw. ac IslamMwslim yw person sy'n dilyn Islam ac mae鈥檔 credu mai gair Allah ydy'r Qur'an. Mae Mwslimiaid yn dilyn esiampl a dysgeidiaeth Muhammad. filwriaethus. Roedd y cyfuniad o eiriau a gwaith corfforol yn mynegi'r hyn sydd ambell waith yn anodd ei roi mewn geiriau'n unig. Mae DV8 yn adnabyddus am ddefnyddio Theatr Gorfforol i ymchwilio i agweddau cymhleth ar gysylltiadau a pherthynas ddynol a materion cymdeithasol neu ddiwylliannol.