Beth ydy Theatr Gerdd?
Mae Theatr Gerdd yn wahanol i Theatr Ddramatig gan ei bod yn cyfuno caneuon, deialog a dawns i adrodd y stori. Mae drama gerdd hefyd yn wahanol i ddrama gyda cherddoriaeth, gan ei bod yn rhoi鈥檙 un pwyslais ar y caneuon a鈥檙 gerddoriaeth ag i elfennau eraill y cynhyrchiad.
genreSteil neu gategori o gerddoriaeth, celf neu lenyddiaeth. ydy Theatr Gerdd sy鈥檔 golygu ei bod yn un math neu gategori o blith y mathau niferus o theatr sydd yn bod. Yn aml mae鈥檔 eithaf arddulliedig ac mae鈥檔 gallu defnyddio amrywiaeth o dechnegau theatrig megis elfennau o Theatr Gorfforol, delwedd llonyddTableau, ffr芒m fferru unigol. Mae'n rhaid i'r holl berfformwyr ddal eu hystum yn hollol llonydd a thawel er mwyn nodi pwysigrwydd y foment. ac actio ensemblePerfformwyr yn gweithio gyda'i gilydd mewn ymarfer/perfformiad i greu digwyddiad ar y llwyfan, ee Corws Groegaidd; slapstic neu Theatr Gorfforol. .
Opera a Theatr Gerdd
Mae Opera a Theatr Gerdd yn croesi ei gilydd, felly fe allan nhw fod yn debyg iawn. Er enghraifft mae鈥檙 ddrama gerdd enwog Miss Saigon yn seiliedig ar opera Giacomo Puccini, Madama Butterfly (Madam Butterfly yn Gymraeg). Ond yn y ddrama gerdd, mae stori Madam Butterfly, sy鈥檔 s么n am briodas aflwyddiannus is-gapten o America a merch o Japan, yn cael ei chyfnewid. Stori serch rhwng GI Americanaidd a dawnswraig mewn bar yn Fietnam yn ystod Rhyfel Fietnam yn y 1970au ydy hi erbyn hyn.
Fel arfer mae opera鈥檔 wahanol i Theatr Gerdd gan fod gan opera stori sy鈥檔 cael ei chanu bron yn llwyr. Y gair am y ddeialog hon ar g芒n ydy libretto. Mewn Theatr Gerdd dydy鈥檙 stori ddim yn cael ei hadrodd ar g芒n bob tro; yn aml bydd y caneuon yn sylwebaeth ar yr hyn sy鈥檔 digwydd, gan gynnig golwg ychwanegol ar sut mae cymeriad yn teimlo neu ymchwilio i thema鈥檙 darn. Mae deialog lafar yn cael ei defnyddio ochr yn ochr 芒鈥檙 caneuon a鈥檙 dawnsio. Ambell waith mae modd 鈥榮iarad鈥 y caneuon eu hunain. Enghraifft enwog o hyn ydy cymeriad Henry Higgins sy鈥檔 鈥榮iarad鈥 ei ganeuon yn y ddrama gerdd My Fair Lady sy鈥檔 seiliedig ar ddrama George Bernard Shaw, Pygmalion. Wedi dweud hynny, y prif reswm am hyn oedd nad oedd Rex Harrison, yr actor a oedd yn portreadu Higgins ar y llwyfan ac yn y ffilm a wnaed ym 1964 yn gallu canu.
Mae鈥檙 ddrama gerdd enwog, Phantom of the Opera, hefyd yn seiliedig ar waith h欧n. Cafodd ei hysbrydoli gan y nofel Ffrengig, Le Fant么me de l'Op茅ra gan Gaston Leroux.