Konstantin Stanislavski
Mae'n hawdd iawn gorsymleiddio method Konstantin Stanislavski, un o ymarferwrRhywun sy'n arfer neu sydd wedi ysgrifennu am elfennau theatrig ac sydd 芒 ffurf theatrig ddiffiniadwy yn perthyn i'w theatr. mwyaf a mwyaf dylanwadol y theatr fodern. Y prif beth i'w gofio ydy ei fod yn credu y dylai actorion fyw y rhan maen nhw'n ei chwarae. Felly rhaid i actor wybod nid yn unig y llinellau sydd angen eu dweud a'r cymhelliadY bwriad y tu 么l i weithredoedd/geiriau cymeriad. Mae'r cymhelliad yn gyrru'r digwyddiadau/yr hyn sy'n cael ei ddweud mewn golygfa, a gall ddatgelu'r gwir neu ystyr sydd wedi ei guddio, sef yr is-destun. ar gyfer y llinellau hynny, ond hefyd pob manylyn o fywyd y cymeriad hwnnw oddi ar y llwyfan ac arno. Fel hyn gallwn sefydlu bod Stanislavski yn gyfarwyddwr ac yn ymarferwr cynyrchiadau naturiolaiddMath o theatr sydd wedi ei chynllunio i greu rhith realiti ar gyfer y gynulleidfa. Dechreuodd tua diwedd y 19eg ganrif..
Cefndir Stanislavski
Enw iawn Stanislavski oedd Konstantin Sergeyevich Alexeyev ond mabwysiadodd yr enw llwyfan Stanislavski ym 1884. Fe'i ganwyd ym 1863 a chafodd fywyd cyfforddus yn aelod o un o deuluoedd mwyaf llewyrchus Rwsia. Bu farw ym 1938 yn 75 oed. Roedd ei deulu wrth eu bodd 芒'r theatr a chafodd gyfle i fwynhau theatr amatur pan oedd yn blentyn. Ond wrth fabwysiadu enw llwyfan ei fwriad oedd cuddio ei waith theatrig oddi wrth ei deulu. Ond ym 1887 cafodd gymeradwyaeth ei dad ac aeth yn ei flaen i fod yn ffigur amlwg.
Roedd yn cymryd ei waith fel ymarferwr theatr o ddifrif. Gwnaeth nodiadau gofalus a byddai bob amser yn cloriannu ei waith. Yn ddiweddarach aeth yn ei flaen i ysgrifennu testunau pwysig ar gelfyddyd perfformio, sydd ar gael mewn cyfieithiadau Saesneg:
- My Life in Art
- An Actor Prepares
- Building a Character
- Creating a Role
Stanislavski oedd cyd-sylfaenydd Theatr Gelfyddyd Mosgo. Er gwaethaf ei gyfoeth, cyfrannodd at ei sefydlu ond nid ef oedd yn talu'r biliau i gyd. Roedd y cwmni'n gwmni stoc a oedd yn eiddo i鈥檙 cyfrandalwrRhywun sy鈥檔 berchen ar ran o gwmni neu ar gyfranddaliadau mewn cwmni.. Creodd hyn ysbryd cryf o gydweithio a chymuned yn y fenter. Roedd hefyd yn golygu bod Stanislavski yn cael ei herio ar adegau ond roedd ei gyfoeth heb os yn gymorth iddo wrth ymchwilio i faes newydd neu ddatblygu maes newydd.