Bertolt Brecht – cefndir cryno
Ganwyd y dramodydd Bertolt Brecht ym 1898 yn nhref Augsburg yn yr Almaen. Ar ôl gwasanaethu fel swyddog negeseuon meddygol yn y Rhyfel Byd Cyntaf a chael ei arswydo gan effeithiau'r rhyfel hwnnw, aeth yn gyntaf i ddinas Munich ac yna Berlin i ddilyn gyrfa yn y theatr. Daeth y cyfnod hwn yn ei fywyd i ben ym 1933 pan ddaeth y Natsïaid i rym yn yr Almaen. Ffodd Brecht ac yn ystod y cyfnod hwn tynnodd y Natsïaid ei ddinasyddiaeth yn ôl yn ffurfiol, felly roedd yn ddinesydd heb wladwriaeth.
Ym 1941 daeth Brecht yn breswyliwr yn UDA ond dychwelodd i Ewrop ym 1947 ar ôl ymddangos gerbron y Pwyllgor ar Weithgareddau AnamericanaiddRoedd y pwyllgor hwn yn ymchwilio i unigolion yn UDA a oedd yn cael eu hamau o fod â chredoau neu gysylltiadau comiwnyddol o 1938 ymlaen. Cafodd y pwyllgor enw drwg pan oedd y Seneddwr Joseph McCarthy yn gadeirydd yn ystod y 1950au.. Yn wreiddiol roedd hwn yn bwyllgor yn erbyn ComiwnyddiaethCymdeithas ddiddosbarth lle mae'r holl eiddo o dan berchnogaeth gyhoeddus., ond roedd hefyd yn targedu deallusion. Erbyn iddo farw ym 1956, roedd Brecht wedi sefydlu'r Berliner Ensemble ac roedd yn cael ei ystyried yn un o'r ymarferwrRhywun sy'n arfer neu sydd wedi ysgrifennu am elfennau theatrig ac sydd â ffurf theatrig ddiffiniadwy yn perthyn i'w theatr. theatr mwyaf.
Fel artist, cafodd Brecht ei ddylanwadu gan amrywiaeth eang o lenorion ac ymarferwyr gan gynnwys theatr Tsieineaidd a Karl Marx. Yn sgil helbulon y cyfnodau y bu Brecht yn byw drwyddyn nhw, datblygodd lais gwleidyddol cryf. Mae'r gwrthwynebiad yr oedd yn ei wynebu'n tystio i'r ffaith bod ganddo'r dewrder i fynegi ei lais personol ym myd y theatr. Roedd ganddo hefyd dalent wreiddiol ac ysbrydoledig i gynhyrchu arddull theatrig ddynamig i fynegi ei farn.
Ei waith enwocaf ydy Mutter Courage und ihre Kinder (Y Fam Ddewrder a'i Phlant yn Gymraeg). Er bod y ddrama hon wedi ei gosod yn y 1600au, mae'n berthnasol i gymdeithas gyfoes ac yn aml mae’n cael ei hystyried yn un o'r dramâu gwrth-ryfel gorau. Furcht und Elend des Dritten Reiches (Ofn a Thrallod yn y Trydydd Reich yn Gymraeg) ydy drama fwyaf gwrth-ffasgaidd Brecht. Mae'r gwaith hwn yn dadansoddi'r ffordd dichellgarGwneud niwed yn gudd, yn slei neu'n fradwrus. y daeth y Natsïaid i rym.