大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Garthen
Iwan Williams Fuoch chi 'rioed yn Baku?
Gorffennaf/Awst 2009
Hynt a helynt Iwan Williams wrth iddo deithio i Baku i wylio Cymru yn chwarae yn erbyn Azerbaijan

"Os ydych am fod yn gefnogwr ymroddedig i dim cenedlaethol pel-droed Cymru, mae angen pocedi dyfnion, digon o amynedd, y gallu i chwerthin, ac Atlas arnoch! Ers i Dad fynd a fi i weld Cymru yn chwarae yn yr hen Barc yr Arfau yn 1989, mae dilyn tim cenedlaethol y bel gron wedi bod o ddiddordeb mawr i fi.

Y freuddwyd yw gweld Cymru yn chwarae yng Nghwpan y Byd neu Bencampwriaethau Ewrop, rhywbeth nad sydd wedi ei gyflawni ers 1958. Ac mae'r freuddwyd honno wedi mynd a fi i rai o ddinasoedd hyfrytaf Ewrop, o Reyjkavik yn y gogledd pell i Bilbao yn y de, Prag a Vienna yng nghanolbarth Ewrop, a Moscow yn y dwyrain.

"Aser-bai-ble??!" meddai Dad wrth i'r grwp rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2010 gael ei gyhoeddi, yn rhoi Cymru yn yr un grwp a'r Almaen (unwaith eto!), Rwsia, y Ffindir, a Liechtenstein (sydd yn llai na Cheredigion!).

Ond nid dyma'r tro cyntaf i Gymru gwrdd ag Azerbaijan. Teithiodd Cymru i Baku, y brifddinas, yn Nhachwedd 2002, gan ddychwelyd yno ym Medi 2004, pan orffennodd y gem yn un yr un,yn anffodus i Gymru.

Gwlad gymharol fawr yw Azerbaijan, wedi ei ;leoli i'r dwyrain o Dwrci a Georgia, ac i'r de o Rwsia, ar lan y m么r Caspian. Er iddi fod yn rhan o'r hen weriniaeth Sofietaidd, mae'r bobl yn teimlo'n agosach at Dwrci, o ganlyniad i natur Fwslemaidd y wlad.

Roeddwn yn edrych ymlaen yn fawr iawn at y daith i Baku, gyda'r gem rhwng Azerbaijan a Cymru yn digwydd ar 6 Mehefin. Ond pythefnos cyn y gem, roedd problemau visa yn golygu fod yna beryg i'r gem gael ei chanslo. Nid oedd Llysgennad Azerbaijan yn Llundain, na chwaith Brwsel (ble rwyf yn byw bellach), yn fawr o help.

Y cyngor i mi oedd i gasglu'r visa ar 么1 cyrraedd Baku, ac felly dyma wnes i, ar 么l siwrne hir o Frwsel i Baku with alw yn Moscow ar y ffordd!

Chwe deg Ewro oedd cost y visa, and roedd yn amlwg fod y swyddog visa eisiau rhywbeth bach mwy iddo'i hun, neu 'fast-track' yn ei eiriau ef! Gwrthodais y llwgrwobrwyo hyn a bum yn aros dros awr am y visa!

O'r diwedd, ac ar 么1 talu cost weinyddol ychwanegol, roeddwn yn rhydd i weld Baku! Yn ffodus, roedd na Albanwr yn aros am visa ar yr un pryd, a gan ei fod of yn gweithio yn Baku yn y diwydiant olew, bum yn ddigon ffodus i gael lifft i ganol y ddinas gyda fe a'i yrrwr personol!

Dinas ddiddorol iawn yw Baku. Mae'r diwydiant olew yn golygu fod yna lawer o gyfoeth yn y brifddinas, ac o ganlyniad mae siopau drytaf y gorllewin yn llenwi'r lle. Mae'r ddinas yn dal i dyfu, a roedd yn amlwg fod nifer sylweddol o fflatiau, swyddfeydd, a gwestai newydd yn cael eu hadeiladu yno. I'r cefnogwyr a deithiodd i Baku yn 2002 a 2004, roedd y ddinas wedi tyfu'n sylweddol.

Mae'r diwydiant olew wedi denu dros fil o Brydeinwyr weithio yno hefyd, a chefais gryn dipyn o sioc i weld dyn yng nghrys pel-droed Abertawe, a chwpl mewn crysau rygbi Cymreig, yn ein cefnogi wrth i dim cefnogwyr Cymru herio tim 'Prydeinwyr yn Baku' noson cyn y gem fawr (dwy gol yr un oedd y sgor derfynol gyda llaw!).

Roeddwn yn aros yn yr hen ddinas, ble mae adfeilion y cenedlaethau a fu wedi eu cadw yn wych o fewn muriau hynafol yr hen ddinas. Mae golygfeydd gwych i'w gweld o gopa Twr y Forwyn, sydd yn safle ryngwladol UNESCO, a cheir adeiladau trawiadol ym Mhalas y Shirvan Shah. Roedd y llety ble roeddwn yn aros, yr Hostel Mil o Gamelod (!), yn syml and yn groesawgar lawn, a chryn dipyn yn rhatach na'r Radisson a'r Hyatt a welwch ynghanol y ddinas newydd! Roedd y prif stryd siopa yn dyst nad yw hyd yn oed Azerbaijan wedi osgoi dylanwad globaleiddio'r byd, a roedd y strydoedd yn llawn o'r trigolion lleol, yn cynnwys y menywod hardd, tywyll eu pryd a'u gwrdd.

Teimlais fod pobl Azerbaijan yn gyfeillgar iawn, gyda rhai ohonynt yn awyddus iawn i ymarfer eu Saesneg, neu i ddweud fod Ryan Giggs yn chwaraewr da iawn! Yn y tywydd crasboeth, aeth y saith deg wyth cefnogwr o Gymru i stadiwm Tofik Bakhramov i weld y bennod nesaf yn hanes pel-droed Cymru. Yn anffodus roedd y bysiau i'n cludo yno yn hwyr ac o ganlyniad gwnaethom golli'r anthemau a dim and gwneud y gic gyntaf mewn pryd! Ar noson gynnes iawn ym mherfeddion Baku, llwyddodd Cymru i guro Azerbaijan o un gol i ddim, a hynny gyda thim ifanc ac amhrofiadol iawn. Nid yw'n sioc i gyhoeddi fod cefnogwyr Cymru wedi dathlu'r canlyniad yn yr amryw o dafarndai Gwyddelig ac Albanaidd hyd oriau man y bore!

Gadewais Baku wedi treulio tridiau diddorol iawn yno, yn llawn chwerthin, pel droed, a dathlu yn y diwedd! Roedd pawb yn edrych mlaen i hedfan adref, neb yn fwy na'r ddau ddeg chwech cefnogwr a yrrodd o Gaerdydd i Baku gan godi arian ar y ffordd i blant amddifad (da iawn i fois Azer-bai-van!).

Yn nhermau pel-droed Ewrop, nid yw'n bosib i Gymru fynd lot pellach na Baku, and rwy'n croesi bysedd y bydd Cymru yn cael y cyfle i chwarae yn Kazakhstan rhyw ddiwrnod! Er na fydd Cymru yn chwarae yng Nghwpan y Byd 2010, mae'r freuddwyd yn parhau!"


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy