大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Garthen
Y Panics Dim mwy o Banig!
Medi 2004
Fflur Dafydd un o aelodau'r band Johnny Panic yn crynhoi ei hatgofion am ddyddiau da ac olaf y gr诺p.

Roedd y band Johnny Panic yn enwog trwy Gymru. Daethant i boblogrwydd gyda'u melod茂au hardd, geiriau pwrpasol a rhythm gwych. Ro'n nhw'n arbennig hefyd gan mai tair merch oedd rhai o'r prif aelodau - Betsan o Dalgarreg, Nia o'r Tymbl a Fflur Dafydd o Landysul. Dyma eiriau Fflur ...

Do'n i ddim yn si诺r iawn sut i deimlo ynghylch gig ola'r Panics. Yn sicr, roeddwn i'n drist wrth feddwl fod y band a fu'n rhan o fy mywyd cyhyd yn dod i ben. Diwedd cyfnod - cyfnod hir a bythgofiadwy o chwerthin, chwysu, cw'mpo mas, cerydda, mynydda, cwympo drosodd, neidio, cario, herio, crio a chredu!

Cyfnod ysgol a chyfnod coleg yn toddi yn un freuddwyd fawr gerddorol. Rwy'n dal i gofio ymarfer cynta'r band (er nad oedd y gair 'band' wedi cael ei grybwyll bryd hynny) - fi, Nia a Betsan - ein dannedd ni'n borffor 'r么l yfed gwin coch, yn gwneud twrw fin nos wrth chwarae'n offerynnau yn wael iawn, iawn! - ac erioed yn breuddwydio y gallai'r weledigaeth feddwol droi'n realiti - ac y byddai'r awydd am greu cerddoriaeth yn ymgorffori fel 'Johnny Panic' - band sydd wedi newid ei lein-yp yn fwy nag y mae ambell un wedi newid ei drwsus.

Ac er gwaethaf y ddelfryd mai band i ferched yn unig fyddai'r Panics, diolch byth am y dynion amrywiol a fu'n rhan o'r band, er mwyn ein cadw ni'n tair wrth yddfau'n gilydd! Diolch yn dalpe i Denz, Colin, Trystan, Rhydian a Alex am basio trwyddo, diolch yn arbennig i Squids am fod yn 'gefen' (ys dywed cymeriadau Cwmderi) - ac i'r criw ymroddgar, parhaol - Gethin 'earplygs' Sanders, lwan 'Llangain' Evans, Rhys 'Y Barf James, a lestyn 'Kiddo' Jones.

Ac roedd 'na falchder hefyd, wrth gamu oddi ar y llwyfan am y tro olaf, yn y ffaith ein bod wedi llwyddo i ymwrthod y pwysau cynyddol sydd ar fandiau'r s卯n gyfredol i droi'n ddwyieithog. 'Doedd canu yn Saesneg erioed wedi croesi ein meddyliau ni, er gwaetha'r pwysau a ddaeth o wahanol gyfeiriadau i ni wneud er mwyn troi'n broffesiynol. Doedd Saesneg, yn syml iawn, ddim yn rhan o'n gweledigaeth ni fel band. Ac mae'n dorcalonnus gweld cyn lleied o fandiau yng Nghymru sydd yn meddwl felly bellach, a chymaint o fandiau sy'n cael eu dallu gan obeithion seithug am yrfa ddisglair dros y ffin, heb ystyried am eiliad y buddiannau sydd i ganu'n eu hiaith gyntaf a chyfrannu deunydd gwirioneddol wreiddiol at ddiwylliant leiafrifol, yn hytrach na cael eu llyncu gan Loegr.

Yn ddiweddar bu^m mewn gig Cymdeithas yr laith yn Aberystwyth. Nid yn unig y gwnaeth y band 'The Poppies' ddangos diffyg parch llwyr at y Gymdeithas trwy ganu y rhan fwyaf o'u set yn Saesneg, ond roedd gan y prif leisydd hyd yn oed y wyneb i ddweud: "I'm gonna sing a few songs in Welsh now because, um, I speak it, and well, y'know, it's a Cymdeithas yr Iaith thing... "

Does dim angen dweud mwy. A ma'r cyfan yn fy ngwneud yn fwy penderfynol byth i gamu'n 么l ar y llwyfan 'na - y Gymraeg lond fy lleferydd.

dan ofal Prosiect Papurau Bro


Cyfrannwch

Glynne Jones, Glaspwll, Machynleth
Dwi'n meddwl hefyd pan fu Evan Jones yn aelod o 'Gymdeithas lenyddol Machynlleth', ym 1854 mi enillodd y Wobr-Traethawd am lyfrun sef Darlundraeth o Fachynlleth a'i Hamgylchoedd; cyhoeddwyd gan Adam Evans Machynnleth yn 1855. Llyfrun bach o hanes diddorol iawn am rhai ffermydd ac ardaloedd ymm mhlwy Machynlleth. Ffugenw Evan Jones yn nheitl y Llyfrun yw Ieuan Dyfi.
Sat Mar 8 11:47:47 2008


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy