Roedd y cyfnod rhwng 9 o'r gloch fore Llun, 21 Tachwedd 2005 a 3.30 prynhawn ' Gwener, 25 Tachwedd 2005 yn gyfnod llawn her i un o aelodau ifanc Y Tabernacl, Pencader. Roedd Siriol Teifi, sy'n ddisgybl 16 oed yn Ysgol Dyffryn Teifi, Llandsyul, wedi rhoi gwybod i'r byd a'r betws am ei bwriad i fyw ar ddim ond d诺r drwy'r wythnos er mwyn tynnu sylw at broblem enfawr newyn Niger, Gorllewin Affrica, a chael pobl i gyfrannu at ap锚l Cymorth Cristnogol ar gyfer y wlad.
Meddai Siriol, "Yn ddiweddar bu cyhoeddusrwydd mawr i'r newyn erchyll yn Niger. Pan welais y lluniau a chlywed yr enw Niger fe gofiais yn syth fod hon yn un o'r gwledydd bu fy nhad yn ymweld 芒 hi i brynu ei crefftau. Yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi fe ddaeth gwraig o'r enw Madame Rabi i aros gyda ni am wythnos er mwyn hyrwyddo crefftau ei gwlad yn ein pabell ar faes yr Eisteddfod.
"Roedd llygaid y plant newynog ar y sgrin deledu fel petaent yn erfyn am help ac roedd hyn yn cyffwrdd 芒 chalon pawb oedd yn eu gweld. Ro'n i'n teimlo bod yn rhaid i fi wneud rhywbeth i helpu ac yn trio meddwl am y ffordd orau i godi ymwybyddiaeth a chodi ychydig o arian yr un pryd. Fe benderfynes i mai ympryd noddedig oedd y ffordd mwyaf addas oherwydd ei fod yn ffordd fach i fi uniaethu gyda'r bobl sydd yn dioddef, er na allaf ddod yn agos i ddirnad eu cyflwr corfforol a meddyliol nhw.
"Roedd fy chwaer Lleucu wedi ymprydio rai blynyddoedd yn 么l dros achos tebyg ac wedi llwyddo i godi swm sylweddol o arian. Mae eraill yn fy nheulu hefyd wedi ymprydio am gyfnodau ac, wedi siarad a nhw, ro'n i'n gweld fod modd gwneud hyn am gyfnod heb beryglu fy iechyd.
Ro'n i'n gallu dal ymlaen am bum diwrnod oherwydd mod i'n gwybod fod terfyn pendant ar fy nghyfnod i a ro'n i'n yfed d诺r gl芒n a mynd i'r ysgol bob dydd.
Yng ngwledydd tlawd Affrig does dim d诺r gl芒n ac mae hyn yn gwneud salwch yn fwy eang o lawer. Mae'r ffeithiau am y newyn yn Niger yn frawychus a'r tristwch mawr yw fod y newyn wedi cael ei ragweld ond fod llywodraethau cyfoethog y gorllewin yn dewis gwario mwy o arian ar ryfela nac ydynt ar helpu y gwledydd tlawd.
"Mae gennyf ddiddordeb mawr yn y materion hyn ac fe fues i lan yng Nghaeredin yn ystod y gynhadledd G8 oherwydd mod i'n teimlo mor gryf fod blaenoriaethau ein llywodraeth ni a gwledydd cyfoethog y byd mor anfoesol.
"Rwy'n gwybod mai cyfraniad bach iawn oedd fy nghyfraniad i wrth ymprydio, ond rwy'n ddiolchgar iawn i bawb a ddanfonodd arian ataf i ac at Cymorth Cristnogol sy'n gwneud gwaith mor wych yn y maes yma."
Ychwanegodd ympryd Siriol rai cannoedd o bunnoedd at Apel Niger Cymorth Cristnogol. Os hoffai ddarllenwyr Y Garthen ei chefnogi gellir danfon siec at Parchedig Tom Dafis, Swyddfa Cymorth Cristnogol, 75 Heol D诺r, Caerfyrddin. SA31 1PZ. Daeth yr ympryd i ben gyda oedfa weddi yn ei chartref o dan arweiniad y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor. Fel cefnogaeth i Siriol penderfynwyd i gyfrannu casgliad oedfa Undebol yng Nghapel Tabernacl Pencader ar Sul 4 Ragfyr i'r Ap锚l, a chasglwyd 拢100.75c. Mae Cyfanswm y cyfraniadau erbyn tua 拢2000.