大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Garthen
Yr Ysgol Canu'r gloch am y tro olaf
Gorffennaf 2003
Er gwaethaf ymgyrchu brwd trigolion yr ardal bydd Ysgol Llanfihangel ar Arth ac Ysgol Alltwalis yn cau eu drysau am y tro olaf fel ysgolion dyddiol ar y 18ed o Orffennaf eleni.

Pan ddaw mis Medi, a dechrau tymor newydd ni chlywir swn plant yn chwarae ar iard yr ysgol yn y ddau bentref yma, ond yn hytrach byddant wedi eu gwasgaru i ysgolion eraill - rhai mor bell 芒 Chaerfyrddin. Wrth golli ysgol y pentref bydd calon y gymuned yn cael ei rhwygo, a'r plant yn colli'r cyfle o berthyn a bwrw gwreiddiau yn ddwfn yn eu cymuned. Mae ein dyled yn fawr i'r rhai a fu'n ymgyrchu am lawer blwyddyn er mwyn cadw'r ysgolion ar agor.

Diolch hefyd i'r athrawon hynny sydd wedi sicrhau'r addysg orau i'r plant am dros gan mlynedd yn y ddwy ysgol. Gwerthfawrogwn ymroddiad y staff presennol, gan ddymuno pob rhwyddineb iddynt yn eu meysydd newydd. Yr her nawr yw cadw'r adeiladu fel canolfannau bywiog ar gyfer y dyfodol. Cofiwch gefnogi pob ymdrech i wneud hyn. Dymuniadau gorau i'r athrawon fydd yn ymddeol - ceir gwerthfawrogiad o'u gwaith a'u gwasanaeth i Ysgol Cae'r Felin yn rhifyn Medi o'r Garthen, a hefyd hanes y dathlu a'r cofio yn y ddwy ysgol arall.

Colli Ysgol

Bydd colli ysgol yn ergyd drom iawn i'n cymuned ni yn Llanfihangel. Cafodd pob dadl a roesom gerbron yr Awdurdod ei gwrthod. Mae'r ysgol yn llwyddo i gyflwyno addysg dda - cystal ag unrhyw ysgol arall yn yr ardal. Mae'r plant sy'n dod i'r ysgol yn elwa o'r awyrgylch teuluol a'r sylw unigol maent yn ei gael, ac mae'r mewnfudwyr yn dysgu Cymraeg yn rhwydd.

Ein dadl gryfa oedd fod awydd cryf iawn yn ein cymuned ni i gadw yr adnodd pwysig hwn ac mai cyfrifoldeb ein cynrychiolwyr yn y Cyngor sir yw gweithio gyda'r elfennau hynny yn ein cymunedau sydd am warchod a datblygu ein hasedau. Yn lle hynny, rhoi cic anferth i ni a wnaethant.

Ond mae ein cymuned yn dal yma. Ein gobaith ni nawr yw defnyddio'r ysgol fel canolfan i'n cymuned. Bydd hyn yn llawer anos hen yr ysgol ddyddiol o herwydd y gost o gynnal yr adeilad. Disgwyliwn y bydd yr Awdurdod yn rhoi cymorth i ni i ddechrau, er mai yr Eglwys yw perchen yr adeilad ac nid yr Awdurdod. Gyda chymorth yr Eglwys a rhai asiantaethau eraill, a brwdfrydedd pobl y pentref, gobeithiwn allu cyflogi rhywun yn yr ardal i drefnu a chydlynu gweithgareddau yn yr ysgol.

Mae'r gweithgareddau a gynhelir eisoes ar gae chwarae'r pentref yn dangos sut y mae modd tynnu pobl ein cymuned at ei gilydd i fwynhau eu hunain - a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg. Yr un modd, gobeithiwn y bydd pobl y pentref yn dod at ei gilydd i fwynhau ac elwa oddi wrth weithgareddau yn yr ysgol. Hefyd gobeithiwn y bydd modd trefnu gweithgareddau yno ar gyfer pobl ifanc y pentref. Y siom fawr ydyw y byddwn yn gobeithio bywiogi a chyfoethogi bywyd ein cymuned er gwaethaf ein hawdurdod lleol ac nid gyda'i gymorth.

Meinir Ffransis


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy