Ar benwythnos cyntaf ym mis Tachwedd bu aelodau a ffrindiau Capel y Bedyddwyr Penybont, Llandysul yn dathlu canmlwyddiant ac ail-agor y capel ar 么1 gwelliannau.
Bu yma dri cyfarfod o safon a llwyddiant arbennig. Ar nos Sadwrn Tachwedd laf cynhaliwyd cyngerdd gan G么r-dydd, o dan arweiniad Sioned James, un o blant yr Eglwys. Hefyd cawsom eitemau gan Kees Huysmans (brodor o'r Iseldiroedd sydd wedi ymgartrefi yn lleol) a Bethan Evans, un o aelodau'r capel. Pleser oedd croesawu yn 么1 fel llywydd y nos Mrs Lydia Williams, a gyfrannodd yn hael at yr achos. Fore Sul cawsom oedfa arbennig iawn o dan ofal Parch. Peter Thomas. Cyflwynwyd allwedd drws y capel i Mrs. Nanna Thomas (aelod hynaf Penybont) i ail-agor y capel yn swyddogol.
Croesawyd pawb i mewn i'r capel gan Mr David Lewis. Cymerwyd rhan gan Parch. Eric Roberts, Ficer y Plwyf a'r Parch. Guto Prys ap Gwynfor, Gweinidog Eglwys Annibynnol Seion, Llandysul.
Ar sail fideo fe gawsom hanes Penybont 1908-2008 gan
bobl ifanc ac aelodau o dan arweiniad Mr. Watkin Bundock a Mrs. Nest James. Cafwyd anerchiad pwrpasol gan Parch. Peter Thomas (Ysgrifennydd Undeb Bedyddwyr Cymru) a hyn yn arwain at fwrdd y cymun.
Yn dilyn yr oedfa bu llawer o drafod a hel atgofion o amgylch y bwrdd cinio a baratowyd gan y gwragedd. I goronu'r dathlu cynhaliwyd Cymanfa Ganu Bedyddwyr Dyffryn Teifi gyda Sioned James yn arwain a Mrs. Nest James wrth yr organ. Roedd yn benwythnos i'w chofio a'r cyfarfodydd ar y Sul yn gyfuniad o lawenydd a defosiwn.
|