Fel y proffwydodd Swyddfa'r Tywydd, profodd y gaeaf a'r gwanwyn yn oerach a sychach nag arfer, ac fe ddaeth heulwen cynnar mis Mai fel bendith fawr i'r ysbryd. Daeth blodau'r coedlannau, megis clychau'r gog a blodau'r gwynt, yn sydyn i fywiogi'r golygfeydd coediog, cyn i ddail gwyrdd golau'r dderwen ddwyn yr haul ar ddiwedd y mis. Ond mae'r haf hefyd yn gyfnod prysur a ffrwythlon yn ein cefn gwlad agored a'n harfordiroedd. Mae'r wennol ar ei hanterth yr adeg yma, yn plymio i mewn ac allan o ddrysau beudai di-rif ledled y wlad, ac fe welir adar to hefyd yn trydar wrth ymdrochi ar ymylon llychlyd buarthau ein ffermydd. Tu draw i gaeau'r fferm ar ein rhostiroedd a'n mawnogydd gallwch glywed s诺n prysurdeb y pryfetach, corhedydd y waun, ac - os ydych yn lwcus, gan nad yw mor niferus ag y bu - gallwch glywed c芒n afieithus y gylfinir. Cymharol ychydig o adar rhostiroedd sydd ar ein ffermydd erbyn hyn: mae'r gornchwiglen fwy neu lai yn gyfyngedig i'n morfeydd, ond mae ei ehediad acrobatig a gwich ei galwad deunod yn dal i atgoffa rhywun am ein porfeydd traddodiadol.
Toreth o dyfiant gwymon a chwrel O fis Mai ymlaen bydd ein pysgotwyr yn dechrau dal mwy a mwy o bysgod, gan gynnwys mecryll a phenwaig, wrth i'r poblogaethau heigio i ddyfroedd bas ar 么l gaeafu ar waelodion y dyfroedd dwfn.
Bydd y m么r ar ei gynhesaf yn ystod Gorffennaf ac Awst, gyda thymheredd arwynebol o 19掳 C mewn rhai mannau ym Mae Ceredigion. Gyda'r cynhesrwydd yma daw toreth o dyfiant gwymon a chwrel ar sarnau tanforol y Bae ac ar arfordiroedd caregog Penfro a Ll欧n, ynghyd a heidiau o sglefrod m么r wedi'u cludo ar ein traethau gyda'r cerrynt deheuol o'r Iwerydd. Ar ein glannau fe fydd modd gweld sbonc y glennydd yn bwydo ar wymon yn y tywod, ac yn eu tro bydd y rhain yn fwyd i'r pibydd torchog, sef aderyn bach del sy'n dodwy ei wyau cuddliw ymysg y tywod a cherrig m芒n y traeth. Ac yng nghysgod y twyni fe welir perlysiau, megis teim a'r friwydd felen - a daenwyd gynt ar lonau tafarndai canoloesol i wella'r arogi - yn cartrefu ar y tywod moel. Ymhellach i'r tir, fe fydd y pantiau gwlyb ysblennydd yn frith o liw porffor tegeirianau'r gors. Hirddydd Haf Wrth i mi sgwennu (a hithau'n ddiwedd mis Mai), mae hi'n glawio'n ddi-baid. Pan fo'r tywydd fel ag y mae heddiw, hawdd lawn yw cwyno am yr hinsawdd wlyb, and buan iawn y daw ein cefn gwlad a'n harfordiroedd i'r golwg ar ddiwrnodau braf i'n diddanu ac i swyno. Roedd ein cyndadau Celtaidd yn llawenhau yn ystod hirddydd haf (Alban Hefin) wrth losgi coelcerth, gan gredu bod hyn yn cryfhau grym yr haul. Rwyf innau hefyd o'r farn weithiau y dylem fynd allan i lawenhau a chlodfori mwy nag a wnawn ar fyd natur yr haf - er nad yw hi hwyrach yn dderbyniol cynnau tanau erbyn hyn!
|