|
|
|
Swcot Neal Belkin o Israel yn sgrifennu am 糯yl y Bythau |
|
|
|
Yn wahanol i Rosh Hashana
a Yom Cipwr adeg hapus yw Swcot - G诺yl y Bythod - neu bebyll.
Beth yw'r bythod hyn? A beth yw'r enw Hebraeg Swcot? Enwir yr 诺yl yn 么l pennod 23 yn Lefiticus sy'n cynnwys dyddiadau gwyliau amrywiol a lle mae adnod 34 yn s么n am 糯yl y Pebyll ac adnod 42 sy'n ein gorchymyn: "Mewn bythod yr arhoswch saith niwrnod". Felly, g诺yl o wythnos gyfan yw hon.
Bwth Yn yr Hebraeg ystyr 'swcah' (lluosog - 'swcot') yw 'bwth', strwythur gwan gyda waliau o bren neu lenni o blastig neu o frethyn.
Nid oes to ar y swcah ond gosodir canghennau a dail fel ei bod yn bosib gweld yr wybren a'r s锚r.
Mae Iddewon yn adeiladu swcah yn eu gerddi neu ar falcon茂au'u fflat neu'n cynorthwyo i adeiladu un ar dir synagog lleol.
Rhaid i'r swcah fod o leiaf bedair troedfedd gyda phedair troedfedd ac yn ddigon mawr i gynnwys bwrdd ac ychydig o gadeiriau gan fod Iddewon yn bwyta pob pryd ynddo ac eraill yn gosod gwely ynddo a threulio'r nos yno.
Dim ond pan yw'n glawio y dychwelant i'w tai. Yn wir mae rhai yn 'aros saith niwrnod' yn y swcah yn unol 芒'r adnod.
Plant yn mwynhau Gall hyn ymddangos yn rhyfedd i rai nad ydynt yn Iddewon ond pan oedd fy mhlant yn fach yr oedden nhw'n mwynhau fy helpu i adeiladu swcah yn ein gardd ac fe wnaethon nhw hongian eu lluniadau ar y waliau a ffrwythau o'r 'to' er mwyn ei addurno. Mae'n bwysig trosglwyddo traddodiadau o un genhedlaeth i'r llall.
Mae'n bwysig hefyd eu dysgu am wreiddiau'r grefydd, sydd, yn achos Iddewiaeth, yng nghaethglud yr Aifft, a'n hachubiaeth gan Dduw (gweler fy erthygl Pesach
Rydym ni'n cael ein hatgoffa o hyn yn adnod 43 yn yr un bennod: "Mewn bythod y perais i feibion Israel drigo, pan ddygais hwynt allan o dir yr Aifft".
Cydraddoldeb Ac mae rhywbeth arall a ddysgwn o'r swcah.
Soniais am gyfiawnder a chydraddoldeb yn fy erthygl
Shavuot ac fe ddysgodd Philo, yr athronydd a rabbi a fu'n byw yn Alexandria yn ystod y ganrif gyntaf, fod y swcah yn dod 芒 chydraddoldeb - a felly cyfiawnder hefyd - gan fod pawb yn gorfod byw dan amgylchiadau sydd ddim yn gyfforddus - y cyfoethog a'r tlawd fel ei gilydd.
Amaethyddol Mae elfennau amaethyddol i swcot hefyd.
Er enghraifft, mae'r 诺yl yn digwydd ar ddechrau'r hydref pan oedd yr hen gymdeithasau'n arfer casglu'u cnydau, ac yn Ecsodus 34:22 ac yn Lefiticus 23:39 darllenwn am Swcot wrth yr enw arall: G诺yl y Cynnull. Felly, nid oedd ond yn naturiol y byddai cysylltiad yn tyfu rhwng amaethyddiaeth a dathliadau Swcot.
Mae'r cysylltiad hwn i'w weld hyd heddiw yn y synagog ac yn ogystal 芒 gwedd茂au a darlleniadau daw pobl 芒'r 'Pedwar Rhywogaeth', yn 么l Lef 23:40: 'ffrwyth pren prydferth', sef yr 'Etrog' yn yr Hebraeg (ffrwyth fel lemwn), cangen o bren y balmwydden ('Lwlaf' yn yr Hebraeg), a brigau myrtwydd ('Hadas') a'r helygen ('Arafa').
Yn ystod y gwasanaethau yr ydym yn chwifio'r pedwar peth yma gyda'i gilydd mewn chwe cyfeiriad: i'r gogledd, i'r de, i'r dwyrain, i'r gorllewin ac i fyny ac i lawr er mwyn dangos fod Duw ym mhobman.
Hefyd yn ystod gwasanaethau Swcot cerddwn o gwmpas y synagog tra'n chwifio'r Pedwar Rhywogaeth a chorganu Hoshana (Psalmau 118:25).
Hen arferion yw'r rhai a ddechreuodd pan oedd y deml Iddewig yn Jerusalem yn mewn bod - gweler fy erthygl
Chanukah .
Mae'n ddiddorol i'r dyrfa ganu'r un peth pan ddaeth Iesu i mewn i Jerwsalem am y tro olaf (Mat 21:9, Marc 11:9 a Ioan 12:13) - yr hyn y mae Cristnogion yn ei ddathlu ar Sul y Blodau.
Darllen penodau 'Llawenhau'r Gyfraith', neu 'Simchat Torah' sy'n digwydd drannoeth y Swcot.
Bob Sadwrn - y Sabath Iddewig - darllenwn ychydig o benodau o'r Torah (Pum Llyfr Moses) yn y synagog, er mwyn darllen yr holl Torah mewn un flwyddyn.
Ar Simchat Torah, rydym ni'n gorffen y darlleniadau hyn (y penodau olaf o Deuteronomium) gan ddechrau eto 芒'r penodau cyntaf o Genesis.
Amser dathlu Achos dathlu yw hyn ac mae gwir awyrgylch parti yn y synagog wrth inni ddawnsio gyda sgroliau'r Torah a phobl yn dod 芒 gwin a theisennau a losin er mwyn y plant - a'r plant wedyn yn sefyll o gwmpas y darllenydd yn nghanol y synagog pan fo'n darllen o'r Torah.
Yna, wedi'r gwasanaethau, mae pryd o fwyd enfawr i'r holl gynulleidfa.
Yn Genesis 1:2 rydyn ni'n darllen o'r Simchat Torah "y ddaear oedd afluniaidd". Nid annhebyg i'r strach yn y synagog ar y dydd hwnnw!
|
|
|
|
|
|