Cafodd ffrindiau imi, Stephanie, ei mab, Alex, a ffrind o'r enw Julia, haf gwahanol iawn i'r cyffredin eleni gan iddynt gael yr anrhydedd o weini yn y Gêmau Olympaidd!
O'r Rhyl y daw Stephanie yn wreiddiol ond yn awr yn byw ym mhentref Panorama, sydd i fyny'r rhiw o Thermi lle rwyf i'n byw.
Ceffylau yw ei byd a chanddi diddordeb arbennig yn y gystadleuaeth Dressage.
Er nad oes diddordeb o gwbl mewn ceffylau gan ei mab hŷn mae Alex, yr ieuengaf o'r ddau, wedi etifeddu hoffter ei fam o geffylau ac yn cystadlu nid yn unig yn y gystadleuaeth yma ond yn neidio clwydi hefyd.
Prawf gyntaf O Abertawe y daw Julia yn wreiddiol ond erbyn hyn yn byw yr ochr arall i ddinas Thessaloniki sy'n ei gwneud yn anghyfleus inni gwrdd â'n gilydd yn aml - yn enwedig â hithau yn fenyw brysur a deinamig iawn a chanddi ei bys mewn sawl brywes.
Nid rhyfedd o beth oedd imi glywed felly fod Julia ac Alex wedi gwneud cais i wasanaethu yn y gêmau.
Rhaid oedd i Stephanie ac Alex fynd i'r brifddinas, Athen, er mwyn cymryd prawf arbennig ac roeddynt yn wên o glust i glust wrth ddychwelyd wedi cael eu dewis i fod yn Swyddogion Technegol Cenedlaethol (NTOs) yng Nghanolfan Marchogaeth y gêmau Olympaidd ym Marcopoulos.
A hithau eisoes yn feirniad cenedlaethol yn y gystadleuaeth Dressage, ni fu'n rhaid i Stephanie wneud cais i weini.
Yn ymwybodol o'i brwdfrydedd a'r alwad am feirniaid profiadol a gwybodus i arolygu'r cystadlaethau, gofynnwyd iddi gan Gynghrair Groeg â fyddai'n barod i weini ac nid oedodd eiliad!
Gwylio'r stablau Nid oedd hi a'i mab yn dod i gysylltiad uniongyrchol â'r cyhoedd - gwylio'r ardaloedd ymarfer a'r stablau oedd eu gwaith a hynny'n gyfrifoldeb mawr gan fod yn rhaid iddynt weld na fyddai dim byd anghyfreithlon yn digwydd, a bod popeth yn gweithio'n rheolaidd.
Dywedodd y ddau mai'r peth pwysicaf oedd budd y ceffylau. Yr oedden nhw'n gweithio shifftiau o chwe awr y dydd a dywedodd Stephanie taw diogelwch â moesgarwch oedd gwaith y goruchwyliwr.
Ar ddiwrnodau'r Dressage bu Stephanie naill ai'n ysgrifennydd i'r beirniad neu'n gwneud ei dyletswydd yn y brif arena.
Ar ddydd y ras Traws Gwlad roedd y ddau ohonynt yn gyfrifol am ffens arbennig - Alex am rif tri a'i fam, Stephanie, yn feirniad ar ffens 26.
Dim ond ar ddydd y Traws Gwlad pan ganiatawyd pobl o amgylch yr hynt y byddai cyfle iddynt siarad â'r bobl ac ateb cwestiynau.
Yn ystod eu hamser hamdden byddent yn mynd i'r brifddinas - gan amlaf yn eu gwisgoedd arbennig.
Synnwyd hwynt gan yr ymateb gyda phobl cwbl ddieithr yn dod atynt i'w llongyfarch am eu gwaith.
Yr uchafbwynt i Alex oedd cwrdd â marchogion gorau'r byd a chael gweld ceffylau gorau'r byd.
Bu'n ddigon ffodus i gael tynnu'i llun gydag ambell enillydd fel Cian O'Connor a enillodd fedal aur.
Cafodd gyfle i'w gweld yn ymarfer a dilyn eu paratoadau ar gyfer y cystadlaethau.
Wedi cwrdd â'r rhan fwyaf o'r Swyddogion Technegol o dramor y llynedd pan gawsant eu profion, maent wedi cadw mewn cysylltiad â rhain drwy'r We, heb sôn am anfon lluniau at ei gilydd.
Dywedodd Alex wrthyf yn frwdfrydig iddi gael gwahoddiadau i leoedd fel: Seland Newydd, Awstralia a Ffrainc ac i'r gemau fod yn help i ehangu cyfeillgarwch gyda phobl o bedwar ban y byd.
Un teulu mawr Fel gwirfoddolwraig y bu Julia yn gweithio ac yn rhan o drefniant na allai'r gemau fod wedi llwyddo hebddynt.
Roedd Julia yn hapus dros ben iddi gael cynnig gweini yn y ganolfan nofio gan mai hwnnw yw ei hoff sbort ac yr oedd yn gyfle i gymysgu â gwirfoddolwyr o wledydd fel De Affrica, Ariannin, Portiwgal, Sbaen, yr Almaen, Malta a Phrydain.
Deilliodd hyn ar gyfeillgarwch newydd rhyngddynt ac mae hithau, fel Stephanie ac Alex, yn dal mewn cysylltiad â'r rhan fwyaf ohonyn nhw.
O'r cychwyn, meddan nhw, roeddent fel un teulu mawr.
Dywedodd Julia i'r gwaith yn y ganolfan nofio fod y cyfnod a roddodd fwyaf o bleser iddi, a'r mwyaf dylanwadol, yn ei bywyd.
Ychwanegodd iddi fod yn ddiddorol tu hwnt gweld sut y gweithiai pethau y tu ôl i'r gwychder allanol. Pe byddai'n mynd i Beijing byddai'n gallu cymharu'r ddau brofiad.
Yn ogystal â'i gwaith gyda VIPs cafodd gyfle i gyfarfod y rhan fwyaf o deuluoedd brenhinol Ewrop a Siapan!
Cyfarfu Stephanie gwrdd â'r Dywysoges Anne a bu Julia yn siarad â hi. Dywedodd y ddwy ei bod yn naturiol ei gwedd a'i hymddygiad.
Gan fod Julia yn hebrwng y cyflwynwyr medalau i anrhydeddu'r enillwyr, gwelodd Michael Phelps ac Ian Thorpe yn agos iawn - y diwethaf ddim yn rhy hapus gan iddo golli i'r llall, meddai!
Cafodd dynnu ei llun gyda Becky Jasontek o dîm nofio cyfamseru'r Unol Daleithiau.
Cyn cychwyn roedd yn gofidio mai hi fyddai'r gwirfoddolwraig hynaf yno ond roedd yn amlwg na fu cyfyngu ar oed gan fod un dyn a gyfarfu yn 75 oed.
Diddorol oedd clywed mai menywod oedd y rhan fwyaf o'r gwirfoddolwyr - dim ond 20% oedd yn ddynion.
Mewn gwerthfawrogiad o'u gwaith cafodd pob un dystysgrif hyfryd i'w hatgoffa o brofiad efallai na welant ei debyg byth eto.
Ond y peth mwyaf, fodd bynnag, fydd y llawenydd yn eu calonnau a'r ffaith iddynt wneud rhywbeth da dros y wlad a'u mabwysiadodd.
|