大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Ar dân yn cerdded ar dân
Camp ryfeddol o gerdded ar gôls chwilboeth yng Ngwlad Groeg

Lynda Ganatsiou sy'n wreiddiol o Bontarddulais yn edrych yn ôl dros fis Mai yng Ngwlad Groeg

Rwy'n gorwedd yn fy ngwely yn gwrando ar y glaw - nid yn pitrwm-patran yn dawel fach, ond yn tywallt i lawr.

Nid yw cwsg yn agos gan fod y mellt yn fflachio a swn y taranau yn gwneud imi gofio mai esboniad mam o daranau, pan oeddwn yn fach, oedd fod Duw wedi digio â rhywun.

Mae'n ddig iawn heno - a dim a allaf ei wneud ond gorwedd rhwng y blancedi o wlân Cymru yn meddwl am ddigwyddiadau cyffrous mis Mai yng ngwlad Groeg.

Dinistr y gwenoliaid

Yna'n sydyn, gwyddwn yn iawn beth achosodd i Dduw ddigio! Y gwenoliaid yn stori newyddion mwyaf digalon yr wythnos a aeth heibio.

Gwnaeth cannoedd o wenoliaid rhyw bum cant o nythod ar adeilad gweinyddol yn nhref Fflorina yng ngogledd ddwyrain y wlad.

Ond oddi tanynt yr oedd ceir swyddogion ac ymwelwyr a ddechreuodd gwyno fod yr adar yn trochi eu cerbydau!

Rhoddwyd gorchymyn yn syth i lanhau'r adeilad a dinistrio'r nythod.

Trychineb ar y mynydd

Yr oedd hon yn noson i gofio hefyd am ddiwedd trychinebus ymgais dringwyr i gyrraedd copa uchaf Olono yn ardal Achaia.

Lladdwyd un ferch yn y fan a'r lle gan y fflach ac anafwyd un arall, a'i chludo i'r ysbyty â llosgiadau llym.

Mewn eiliad tarodd ail fellten ac mewn ymgais i ddianc fe aeth un o'r dringwyr ar ddisberod heb sôn amdano ers hynny.

Diolch i Dduw i'r tad a'i bedwar mab 17, 14, 11, ac 8 oed o Thermi (lle'r rwy'n byw) gael eu hachub.

Eu nod hwy oedd cyrraedd copa Olympus - Mynydd y Duwiau - ond iddynt gael eu dal mewn storm eira 2,600 metr i fyny, colli eu ffordd ac, oherwydd y tywyllwch, fethu a throi'n ôl.

Mai heb ei debyg

Nid wy'n cofio mis Mai tebyg i hwn yn ystod y 25 mlynedd yr ydw i wedi bod yn byw yma.

Bu'n glawio mor ddi-baid y bum i'n ystyried o ddifrif adeiladu arch!!

Nid glawio'n unig ond arllwys cymaint am wythnos gyfan nes bod y llwybr at y ty fel afon.

Ond rhaid cyfaddef fod y ddaear sychedig angen y dwr - yn enwedig gan fod ton o dywydd gwresog ar y ffordd.

Tan hynny rhaid inni wneud yn fawr o'r tyfiant gwyrdd tra bo - ymhen ychydig amser bydd y glesni yn troi'n felyn, gwelltog.

A phwy a wyr beth fydd yn digwydd yn nes ymlaen yn yr haf a'r gwres yn codi'n uwch ac yn uwch a'r dwr yn mynd yn is ag yn is yn y cronfeydd?

Yn barod, rydym wedi cael ein rhybuddio o'r hyn sydd o'n blaenau yn dilyn prinder glaw dros y gaeaf. Fodd bynnag, ar hyn o bryd rhaid byw am heddi.

Fel llun gan Monet

Rwyf i yn byw mewn tref fechan o'r enw Thermi gyda digon o goed o amgylch y ty a bryniau a mynyddoedd i fy helpu anghofio am bryderon - boed hynny ond am eiliad!

Mae'r rhandir o gwmpas ein coed olewydd yn ddarlun y byddai Monet wrth ei fodd ag ef! Carped goch o babi yn suo yn yr awel fwyn.

Gyferbyn, mae cae o wenith yn blaguro wedi'r holl law.


Dyna daran arall. Nefoedd Wen! Mae'n agos iawn nawr.

Dathlu Mai

Cofio wedyn mor fwyn oedd hi ddechrau'r mis. Y bobl allan gyda'u baneri ar strydoedd y dre ar Fai 1 yn dathlu Dydd Llafur cyn i bawb ffoi i'r wlad i fwynhau gweddill y dydd.

Fe fum i a'r gwr yn ardal Halkidiki, mewn pentref o'r enw Pefkochori (Pentref y Pinwydd) lle'r oedd ei ewythr, ei fodryb a'i gefnder yn ein disgwyl.

Fel arfer mae pobl yn coginio oen dros dân glo y diwrnod yma ond, a ninnau ond newydd wneud hynny ar gyfer y Pasg, dim ond nifer fechan a wnaeth yr ymdrech eto.

Fe es i am dro fach i gasglu blodau, a gwneud torch, yn ôl yr arfer, i'w hongian ar ddrws y ty.

Ar draws y môr roedd copa Mynydd Olympus wedi ei orchuddio ag eira er gwaethaf y gwres.

Erbyn y byddwch yn darllen hwn bydd y gwres yn 35c a'r blodau bron i gyd wedi syrthio o'r coed olewydd. Blodau bychain gyda dim ond pedwar petal.

Gyda'r cnwd yn dibynnu ar faint o flodau sy'n blodeuo mae'r arwyddion yn dda ar gyfer eleni.

Eos a gwyddfid

Oddi ar y feranda, liw nos, rwy'n anadlu'r gwyddfid sy'n glawdd hir, trwchus, ac wrth ir byd o gwmpas dewi clywaf yr eos yn y coed gerllaw.

Dyna i chi gân nefolaidd.

Trannoeth gwelais fod yr hoopoe, aderyn hynod, a gorwych iawn, wedi dychwelyd o Affrica. Er yn weddol brin yr oedd chwech ar y lawnt y llynedd.

Y llynedd hefyd daeth petrisen a'i chwe chyw bach am lymaid o ddwr o biben oedd yn gollwng dwr yn ein gardd.

Ar hyn o bryd mae gennym dri nyth colomen wyllt yn union y tu allan i'n hystafelloedd gwely gyda phob ystafell wely â nyth y tu allan iddi.

Ar ddydd fy mhen-blwydd, sydd hefyd ym Mai, ni allwn beidio a chofio llinellau Eifion Wyn - yntau hefyd wedi ei eni yr un mis:
Gwn ei ddyfod, fis y mel,
Gyda'i firi, gyda'i flodau,
Gyda dydd fy ngeni innau
Gwyn fy myd bob tro y dêl.




Fflamau Anastenaria
Cerdded ar dân

Rhwng Mai 21 a Mai 23 mae Gwyl Gerdded ar Dân, yn cael ei chynnal heb fod yn bell o'n cartref ni.

Yr Anastenaria sy'n cynnal y dathliad "cerdded ar dân" blynyddol hwn i ddathlu gwyl Sant Constantine a'i fam, y Santes Eleni.

Ymerawdwr Rhufeinig oedd Constantin, a gafodd dröedigaeth Gristnogol yn 337 O.C.

Er i'r seremoni ymddangos yn baganaidd cofleidiodd yr Anastenaria crefyddol hi a'i hymgorffori yn llwyr yn eu Cristnogaeth.

Achosodd hyn iddynt gael eu hesgymuno o'r Eglwys Roegaidd Uniongred.

Gorfoledd ysbrydol

Ar y noson gyntaf mae'r Anastenaria yn paratoi i ymuno â Duw ar y Ddaear drwy dawnsio a chyrraedd cyflwr o orfoledd ysbrydol.

Cymaint yw effaith hyn dydyn nhw ddim yn teimlo poen pan gerddant yn droednoeth dros y côls eirias ac mae'n anhygoel gweld fod eu traed yn gwbl ddianaf wedyn.

Bydd y dawnswyr yn dal cerflun o Gonstantine ac Eleni uwch eu pennau wrth gerdded drwy'r tân.

Mae'r arfer yn dyddio o 1250 pan achubodd rhai o bentrefwyr ardal Thraci gerfluniau o eglwys oedd yn llosgi am iddynt, yn ôl yr hanes, glywed y cerfluniau yn galw am help.

Felly, credir i ddisgynyddion y pentrefwyr yma gael eu bendithio a'r ddawn i gerdded dros dân hyd heddiw fel tâl am hynny!

I ddathlu'r gamp bydd llo yn cael ei aberthu yn union ar ôl y ddawns.




ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy