Compo yng Ngwlad Groeg Mewn Saesneg bratiog gwaeddodd y 'Compo' lleol a dau 'wag' arall ar y cannoedd ohonon ni oedd wedi cymeradwyo'n uchel y machlud uwchben rhaeadr o dai sgwar, gwyngalchog, ar glogwyni uchel ynys hudol ynys Santorini fel petai neb ohonon ni wedi gweld y fath beth erioed o'r blaen: "Dowch yn ôl eto 'fory yr un peth, yn yr un lle, a'r un pryd!"
![](/staticarchive/00110d1b9c6f24b24afed5311f337ceb0132b0e6.jpg) Ef oedd yn iawn wrth gwrs. Fel'na mae hi ar Ynysoedd Groeg. Haul tanbaid, awyr ddigwmwl o fora gwyn tan nos, a'r môr yn las, las. Tywod du dan draed Ond ar Santorini tywod du, folcanig, sydd dan eich traed ar y traethau - ond wrth ichi blymio dan wyneb y dwr, a'ch snorcel a'ch masg am eich pen, mae'r pysgod amryliw i'w gweld yn eglur mewn dwr glân a'i lesni eang yn ymestyn ymhell o'ch blaen. Rhyw ddeuddeng milltir sydd yna o un pen i Ynys Santorini i'r llall a rhyw bedair milltir ar ei thraws. Hanner awr o daith mewn bws 'Crosville' unllawr, hen ffasiwn, a'r conductor yn dosbarthu tocynnau unigol o flwch pren pwrpasol. Hen ddinas Atlantis Yn ôl rhai archaeolegwyr, dyma safle dinas goll Atlantis, i'r gogledd o ynys Creta. Ar ben clogwyni uchel y de mae gweddillion caer a dinas Hen Thira: - teml Apollo a'i holion yn dyddio ganrifoedd cyn Crist yn rhoi gwefr i ddyn wrth gerdded heibio'i cholofnau crwn, bellach yn gorwedd ar y llawr; - amffitheatr sydd â'r môr yn gefndir iddi fil o droedfeddi yn is, - hebog yn hofran ar yr awel gynnes rhyngof a'r maes awyr lle mae rhesi o "adar" tipyn mwy yn rhuo rheibio bob rhyw ddeng munud. Llosgfynydd yn ffrwydro Gweld dinas Akrotiri, y bu archaeolegwyr yn ei dadorchuddio o'r lafa folcanig er 1967 gan ddangos yn eglur sut yr oedd yr ynyswyr yn byw 1,500 o flynyddoedd Cyn Crist, pan ffrwydrodd mynydd tanllyd a llyncu rhannau o'r ynys yn gyfan. Bryd hynny lledodd ceudwll y mynydd tanllyd dros ddeugain milltir sgwar ar un ochr i'r ynys. Heddiw mae gweddillion ymylon y ceudwll hwnnw i'w gweld mewn hanner cylch o glogwyni sy'n codi'n serth dros fil o droedfeddi o'r môr. Ac yno, fel eisin ar gacen ben-blwydd mae'r brifddinas, Thira Newydd, yn gafael yn dynn ar wyneb y graig. Grisiau a thail asynnod! Mae cannoedd o risiau i'w dringo o'r ddinas i'r porthladd. Ond ar gyfer y diog, mae rhes o fulod ac asynnod sy'n ddigon o ddychryn wrth iddyn nhw ruthro heibio a'ch gwasgu yn erbyn y wal os mai wedi penderfynu cerdded y llwybr cul, igam-ogam, ydych chi. Y gamp fwyaf, fodd bynnag, yw peidio â rhoi eich traed yn y tail drewllyd sy'n britho'r grisiau cerrig. Drewllyd braidd ydi'r llosgfynydd hefyd gyda labordy cemeg a wyau drwg dod i'r cof yn syth. Mae'r môr mawr wedi llenwi ceudwll y llosgfynydd erbyn heddiw ond mae llosgfynyddoedd eraill wedi codi eto yn ei ganol y diweddaraf yn ystod pumdegau'r ganrif ddiwethaf. Llosgfynydd sy'n dal i ffrwtian I'r fan honno roeddwn i'n anelu ar fwrdd hen sgwner anferth, yng nghwmni tua chant o ymwelwyr, i weld llosgfynydd sydd, er yn dal i ffrwtian, yn ddiogel i'w ddringo.
Creigiau duon sydd ym mhobman wrth i'r gadwyn o ddringwyr ddilyn yr arweinydd i'r copa. Ond, siomedig braidd oedd sylweddoli fod mwy o stêm yn codi o decell nag o'r ceudwll sy'n cael ei werthu' fel un "byw." Ond o gyrraedd y copa ar ddiwrnod dathlu duw y losgfynydd, roedd hi'n werth y daith yng ngwres haul canol dydd dim ond i weld y forwyn bluog, liwgar, oedd yno i wneud yn siwr na fyddai'r stêm yn troi'n damchwa o leia yn ystod yr awr honno beth bynnag! Hwylio ar wyneb y ceudwll oeddan ni, gan edrych i fyny i ben y clogwyni lle mae trefi bychain gwyngalchog yn disgleirio yn yr haul, fil o droedfeddi uwch ein pennau. Ond dirgelwch i mi oedd gweld hanner dwsin o longau teithio crand wedi eu clymu â rhaffau wrth dri bwi. Pam tybed nad oedd y llongau gwynion, anferth, hyn wedi gollwng angor? Wedyn, pan oeddwn yn nofio yn y dwr y cefais yr ateb. Dychryn mewn dyfroedd dyfion Yn y cyfamser, trodd ein sgwner i gyfeiriad bae bychan ar ynys y tu ôl i'r mynydd tanllyd roedden ni newydd ei ddringo. "Allai ddim mynd â'r llong fymryn yn agosach i'r lan na hyn!" cyhoeddodd y Capten drwy'r uchel-seinydd. "Os da chi isho mynd i drochi yn y dwr cynnes o'r llosgfynydd a rowlio yn y mwd llesol, bydd yn rhaid ichi nofio'r pedwar can llath o'r llong!" ychwanegodd. Allwn i ddim peidio â mynd. Deifio i'r dwr, a nofio yng nghwmni rhyw ddeugain o bobol, a theimlo braidd fel un o ddilynwyr Mao Tse Tung yn Afon Yangtse ers talwm. Y môr yn gynnes a llawn heli cryf wrth inni nofio'n hyderus tuag at y dwr brown yn ein gwahodd ni tua'r traeth a gweld eglwys wen, fechan, ar y lan. Popeth yn nefolaidd, nes i'r gwr ifanc oedd yn ein hebrwng mewn cwch achub ddweud yn uchel: "Tybed ydych chi'n sylweddoli fod dyfnder y dwr yr ydych yn nofio ynddo, ddau gant wyth deg o droedfeddi!" Welais i erioed bobol ar eu gwyliau yn nofio mor gyflym am eu bywyd! Dwi'n siwr y byddwn i wedi cael medal o ryw fath pe byddwn i'n cystadlu yn Sydney ar y pryd. Ta waeth, roedd y profiad o ymdrochi mewn dwr cynnes iawn a gorchuddio pob modfedd o'm corff mewn mwd folcanig, meddal, du, tua throedfedd o drwch yn brofiad bythgofiadwy.Mae'r lliw yn dal i fod yn leinin fy ngwisg nofio er gwaethaf sawl golchiad. Ond bydd yn hir iawn cyn y byddaf yn anghofio'r braw a deimlwn wrth adael y mwd a'r dwr chwilboeth - a gorfod nofio'n ôl ar wyneb y fath ddyfnder i gyrraedd y sgwner! Gwinllanoedd a gwin heb label Gwinllanau sy'n britho'r rhan fwyaf o diroedd isaf, calchog, Santorini gyda gwinwydd cwta, bler yr olwg, yn tyfu yno. Ond yn troi'n win blasus - o brynu potelaid gan un o'r hen ddynion wyneb-lledr a mwstas Stalinaidd, gwyn, a chap stabal am ei ben, sy'n eistedd yng nghysgod olewydd efo rhesiad o boteli, heb labelau, ar wal wen isel ger y traeth. Ac yn eich gwahodd i brynu trwy fwmian "Vino!" yn isel. Pobol groesawgar ydi trigolion Santorini ac mae'n braf gweld na lyncwyd y lle gan fasnach. Twristiaeth yn ffon fara Twristiaeth ydi'r ffon fara bwysicaf ac mae'n wir dweud bod y lonydd culion yn frith o sgwteri a motobeics er bod yna wasanaeth bysiau cyhoeddus rhagorol a rhad. Yr hyn sy'n braf yw gweld yr ynyswyr eu hunain yn amlwg fwynhau cymdeithasu llawn cymaint ag unrhyw ymwelydd yn dawnsio mewn cylch gosgeiddig i swn mandolin a gitar gan chwerthin yn iach, fel y rhai y bu'n rhaid i minnau ymuno â nhw mewn dawns ar lan y môr yn Perissa. Gartref, yng Nghymru, bum yn gwylio'r haul yn machlud o ben clogwyn yn Eryri y tro hwn. Doedd 'na neb arall yno ar y pryd; a golygfa digon cyffrous oedd hi wrth i'r haul - gwantan braidd - foddi y tu ôl i gymylau llwydion cyn diflannu. Cofiais am 'Compo' ar glogwyn uchel arall yn Santorini yn gwneud sbort am ein pennau'n cymeradwyo yr un haul yn mynd i'w wely dros orwel y Môr Egeaidd. Yn anffodus, ngwas i, fedrit ti ddim dweud be ddwedais ti bryd hynny yma achos dim ond ar ambell i gyfnod hudolus ar ambell i ddiwrnod prin - ambell i haf - mae'r rhyfeddod i'w weld!
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif)
|