大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Arwyddion y Pasg
Lynda Ganatsiou yn trafod y newid a welodd dros y blynyddoedd yn nathliadau'r pasg yng Ngwlad Groeg

Bu newidiadau mawr yn y ffordd yr ydym yn dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groes o gymharu a phan ddeuthum i yma gyntaf, 30 mlynedd yn ôl.

Bryd hynny, nid oedd rhaglennu adloniant yn cael eu dangos ar y teledu o gwbl yn ystod Yr Wythnos Sanctaidd a ddchreuai gyda Sul y Blodau.

Yr unig beth a ddarlledwyd yr adeg honno oedd y newyddion a gwasanaethau yn y gwahanol eglwysi ledled y wlad.

Dim ond dwy sianel oedd ar gael ac, fel arfer, pan fyddech yn switsio'r teledu ni fyddai hyd yn oed llun yn ymddangos ar y sgrin yn ystod yr wythnos hon - dim ond sŵn cerddoriaeth syber i bwysleisio, yn llwyddiannus iawn, ddwyster yr amgylchiadau.

Ond daeth newid mawr dros yr blynyddoedd ac erbyn heddiw mae'r amrywiaeth arferol o raglenni a ffilmiau i'w gweld a hynny heb unrhyw wrthwynebiad gan yr Eglwys.

Ond hyd yn oed heddiw sianelau yn ceisio cydnabod ysbryd yr Ŵyl trwy ddangos ffilmiau 'crefyddol' mawr Hollywood fel, Ben Hurr, Y Deg Gorchymyn, Iesu o Nasareth a Brenin y Brenhinoedd.

Ar Fai 1 y dathlwyd yr Ŵyl yma eleni, 2005 - yn wahanol i'r dyddiad yng Nghymru.

O'r gair Iddewig, Pesasca y daw y gair Groegaidd Pascha ac i'r Cristion Uniongred dyma ŵyl Gristnogol bwysicaf y flwyddyn - canolbwynt a chalon y flwyddyn swyddogol.

Mae'r Cristnogion yn paratoi am yr Ŵyl mawr mewn sawl ffordd:
Mae goleuni lambaddes, wyau coch, oen ar y radell a thorch a osodir ar groes y Gwaredwr yn rhai o'r traddodiadau sy'n parhau hyd heddiw er nad yw pawb yn sylweddoli beth yw eu hystyr symbolaidd erbyn hyn.

Y Gwawl neu'r Golau Sanctaidd
To Agio Ffos
Yn ôl pob tebyg, byddai'r Cristnogion cynnar yn cynnau lambadda (cannwyll hir) bob nos a phob bore er mwyn gogoneddu Crist y Goleuni.

To Agio FfosMae cynnau lambadda'r atgyfodiad gyda'r Golau Sanctaidd yn diogelu dau brif draddodiad - y ddau ohonynt yn Gristionogol bur.

Yn gyntaf, goleuir y Canddila yr Acolwthia tw Esperiw (llusern olew at wasanaeth angladdol hwyrol); ac yn ail, fflam newydd ar gyfer dyddiau'r Pasg yn unig.

Yn ystod y degfed a'r unfed ganrif ar ddeg credwyd fod y golau yn cael ei gynnau yn wyrthiol ac yn ystod yr un cyfnod, dechreuodd y patriarch yn eglwys gadeiriol Jerwsalem ymweld â'r Bedd Sanctaidd.

Tra'n gweddïo yno, rhoddai'r Gwawl i'w archddiacon ac yntau, yn ei dro, yn eu rhoi i'r bobl.

fghFelly, yn y modd yma mae'r gwawl o'r Bedd Sanctaidd yn cael ei ddwyn i'r eglwysi uniongred eraill.

Yn y miloedd o eglwysi uniongred dros y byd yn gyfan, cymer yr offeiriaid y Gwawl o'r acimiti canddilas (lamp digwsg), sydd ar ben yr Allor Sanctaidd, sy'n arwydd o Fedd yr Arglwydd. Yna, fe fydd yr offeiriaid yn llafarganu:

Ddefte lafete ffos ec tw anesperou ffotos ce ddocsasate Christon ton ananstanda ec necron.
"Deuwch, derbyniwch y gwawl nad yw bydd yn ddiffygiol a bendithiwch Grist ac atgyfododd y meirw."

Maent yn trosglwyddo i'r ffyddloniaid y ffaith fod Crist yn dwyn i'r byd rodd Goleuni a bywyd tragwyddol.

Lambaddes y Llewyrch neu'r Pasg:
Lambaddes tis Lambrianis
Mae'r Lambadda gannwyll arbennig a roddir i'r plant gan un ai eu mam fedydd neu eu tad bedydd i fynychu'r gwasanaeth ar y nos Sadwrn Sanctaidd yn coffau atgyfodiad Crist.

Fodd bynnag, mae'r arwyddocâd hwn yn araf golli ei ystyr a'r cysylltiad crefyddol yn mynd yn fwy a mwy bregus.

Y dyddiau hyn addurnir rhesi o lambaddes â delweddau arwyr teledu a sinema a'r canhwyllau ond yn gyfrwng i siopau wneud arian ac yn cael eu gwerthu mewn pecynnau bargen!

Yn wir, gwerthir lambadda mewn bocs yn cynnwys y cyfan o ddarpariaethau diweddaraf Harry Potter neu Action Man a Barbie.

Fodd bynnag, mae'r lambadda a'r gwêr sy'n llosgi yn symbol, mewn gwirionedd, o'r Crist atgyfodedig ac fe ddylai fod o wêr pur ac nid yn llosgi paraffin.

Bu hwn yn draddodiad ymhlith yr Hen Roegiaid hefyd a fyddai, ar noswaith cyn priodas, yn rhoi gwledd yn nhŷ'r priodfab, lle byddent yn cynnau canhwyllau er mwyn pwysleisio disgleirdeb y digwyddiad.

I'r Cristion mae Crist yn ymddangos fel priodfab yn dod yng nghanol nos a rhaid wrth lambadda i weld ei rinweddau.

Y Dymuniad:
Cali Anastasi ( Atgyfodiad Da)
Dyma gyfarchiad mwyaf cyffredin y Groegiaid Uniongred.Ond yn ystod Llywodraethiad y Twrciaid yr oedd arwyddocâd ychwanegol i'r cyfarchiad gan ei fod yn cyfeirio hefyd at 'atgyfodi' o afael grym yr Otomaniaid.

Wyau cochion:
Ta cocina afga
Yn ôl y chwedol, pan ymwelodd Mair Magdalen, Mair gwraig Jacob a Salomi â bedd Crist yr oedd ganddynt dri ŵy yn unol a choel yr Hebreaid y gallai enaid yr ymadawedig fwyta.

Wyau cochionWedi dadorchuddio'r Crist gofynnodd y tair iddo newid lliw yr wyau gwynion i goch, er mwyn dangos mai Ef oedd eu Meistr.
Ac felly y bu!

Y coch, wrth gwrs, yn arwydd o'r gwaed a gollwyd.

Mae'r ŵy hefyd yn arwydd o gau fywyd a'r torri traddodiadol o'r wyau yn arwydd o lechen y bedd yn agor gyda'r atgyfodiad.

Hyd yn oed heddiw, mae'r Uniongredwyr yn Rwsia yn gadael wyau coch ar feddau er cof am berthnasau sy'n gorwedd yno.

Y Dorch: Ta Steffania
Gosodir Torch y Dystiolaeth ar groes yn atgof o'r goron ddrain.

Cynnwys y dorch flodau'r gwanwyn yn arwydd o ddiwedd y gaeaf ac adfywiad natur.

Epitaffio:
Bedd Crist
Ystyr Epitaffio ydy Epi sy'n golygu ar neu dros a Taffos yn golygubedd.

Yn ystod y gwasanaeth boreol fe fydd yr offeiriad yn dadhoelio y ffurf pren sy'n arwydd o Grist, o'r groes o flaen yr allor.

Gorchuddir hwn â lliain a'i gadw yn y cysegr am 50 diwrnod i'w dynnu allan y Pentecost i'w osod yn ôl ar y groes.

Tu allan i'r eglwys, ar ddydd Gwener y Groglith, mae menywod wedi addurno elor â blodau yn barod i gario'r symbol o Grist.

Yna fe'i dygir i mewn i'r eglwys. Yn olaf bydd nifer o offeiriaid yn cario lliain enfawr ag arno lun o Grist wedi marw (a elwir Epitaffios), a hwn wedi ei ddal uwch eu pennau, allan i gorff yr eglwys.

Wrth iddo fynd o amgylch yr eglwys bydd y gynulleidfa yn taflu petalau ac yn gwasgaru dŵr persawr drosto.

Bydd yr offeiriad yn eu osod ar yr elor addurnedig a'i orchuddio a phetalau blodau a gwasgaru dŵr rhosynnau drosto.

Yn union wedyn bydd cnul y clychau a thynnir baneri'r holl wlad i lawr.

Fe fydd yr offeiriad yn gwasgaru dŵr dros y gynulleidfa ac mewn rhai rhai rhannau o'r wlad mae hon yn eiliad deimladwy iawn gyda'r menywod hen yn llefain am y Crist marw.

ElorMae gwasanaeth y nos yn cymryd ffurf angladdol ac yn awr mae'r groes, sy'n sefyll ym mlaen yr eglwys yn dwyn coron o ddrain yn unig, ac o'i flaen yr Epitaffio neu'r lliain wedi ei frodio â llun y Crist marw yn gorwedd ar ei elor wedi ei addurno â blodau.

Tua naw o'r gloch, a'r gwasanaeth o alaru lle mae'r côr yn canu emynau Bysanteg wedi gorffen, fe fydd yr Epitaffio yn cael ei gludo allan o'r eglwys i gyfeiliant cnul y clychau, yn union fel pe byddai angladd, a'i gario gan ddynion o amgylch y pentref hyd at y fynwent ac yn ôl mewn gorymdaith araf, ddwys, yn cynnwys offeiriaid a bechgyn yn cario croesau aur a delwau.
Fe'u dilynir gan y gynulleidfa yn cario canhwyllau ac unwaith y byddant wedi dychwelyd i'r eglwys bydd y dilynwyr yn moesymgrymu gerbron yr Epitaffios a chusan'r cerflun o Grist sydd arno.

Yr oen ar y radell:
To psito arni
Dyma un o'r traddodiadau hynaf gyda'i wreiddiau yn yr Hen Roeg.

Deugain niwrnod wedi marw eu perthnasau byddai'r Groegiaid hynafol yn coginio ger y bedd er dedwyddwch y meirw.

Coginiwyd ŵyn yn y ffwrnais, yfed gwin a dawnsio.

Yn ôl yr Iddewon, aberth heddychol ydy'r oen ac fel oen i ddyrchafu pechodau'r byd y gwelwyd Crist.

Pan oedd Groeg dan law Twrci byddai'r milwyr, pan nad oeddent yn rhyfela, yn cadw at y traddodiad Groegaidd hynafol o goginio oen.

Y dyddiau hyn mae dathliadau gwrthryfel 1821 ar y Sadwrn Sanctaidd gyda thanio gynnau a thân gwyllt yn rhoi'r dathlu crefyddol yn y cysgod.






ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy