大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Offeiriad yn bendithio Bendithio siop Yannis
Lynda Ganatsiou yn dyst i'r arferiad o fendithio busnes newydd

Yannis Hadjiorddanou ydy ffrind gorau fy mab Andreas.
Wedi gadael yr ysgol uwchradd aeth Yannis ar gwrs arbennig i gemegwyr gyda'r syniad o redeg ei fusnes ei hun.

Fodd bynnag, roedd ganddo un rhwystr arall cyn cychwyn ar ei yrfa - treulio cyfnod gyda'r lluoedd arfog ond wedi blwyddyn gyda'r Llu Awyr yr oedd yn barod i wynebu'r byd.

Ei dad yn emydd
Dilyn camau ei dad, Kostas, y mae Yannis, yr hynaf o ddau o blant.

Gemydd ydy Kostas gyda siop yn un o strydoedd pwysicaf dinas Thessaloniki, sef Egnatia.

Ers iddo fod yn ddigon hen ymddiddorodd Yannis yn y gwaith gyda'i rieni yn ei gymell gymaint a phosibl trwy adael iddo gynorthwyo yn y siop yn ystod gwyliau'r ysgol a thros y Nadolig a'r Pasg .

Maes o law cafodd redeg y siop ar ei ben ei hun pan fyddai Kostas a'i wraig, Stela, i ffwrdd.

Er mai rhentu ei siop mae Kostas, ychydig ddrysau i ffwrdd mae ganddo adeilad sy'n eiddo iddo ef ei hun a chan i Yanni ddangos cymaint o ddiddordeb trosglwyddwyd yr adeilad hwnnw i'r mab.

Er taw ffrynt gweddol gul sydd i'r lle mae gan Yannis weithdy ar y llawr isaf lle mae'n gwneud newidiadau i emau a chreu ei dlysau ei hun.

Gwariwyd arian mawr ar ddodi camerâu dirgel a sgrîn hyfryd fel y gall pobl sy'n mynd heibio weld beth sydd ar werth.

Bendith offeiriad
Yma, nid yw'n weddus agor busnes o unrhyw fath heb i offeiriad fendithio'r adeilad a'r perchennog.

Engenia ydy'r enw Groegaidd am hyn a rhyw bythefnos cyn agor y siop yn swyddogol gwahoddodd Yannis berthnasau a ffrindiau i'r achlysur.

Rhaid oedd trefnu digon o fwyd a diod wrth gwrs a cherddoriaeth yn y cefndir.

Gofynnodd Yannis i Andreas fod yn gyfrifol am y gerddoriaeth ac ef fu'n gyfrifol am dynnu'r lluniau hefyd!

Er mwyn cefnogi ei gyd bentrefwr fe archebodd Yannis y bwydydd gan gyfaill ieuanc sydd hefyd newydd ddechrau rhedeg siop pobydd a melysfwydydd.

Roedd Yannis ar bigau'r drain rhag ofn y byddai'r tywydd yn newid gan fod y bwydydd yn cael eu trefnu ar fordydd yn yr awyr agored. Bu'r elfennau yn ffafriol!

Teulu agosaf
Erbyn saith o'r gloch roedd nifer fawr o bobl wedi ymgynnull ond gan fod mynedfa'r siop mor gyfyng dim ond y teulu agosaf - ei chwaer Iliana, ei dad, ei fam, ei neiniau a rhyw dri o'i ffrindiau gorau, adawyd i'r siop ar gyfer y bendithio.

Y teuluBendithiodd yr offeiriad nid yn unig y lle ond gwasgarodd hefyd ddŵr sanctaidd dros Yannis ei hun gan ddefnyddio sbrigyn o fasil wedi ei rwymo o amgylch croes fechan o bren.

Y gred yw fod basil yn ennyn ffortiwn da.

Daeth y cyfan i ben gyda'r offeiriad yn ysgwyd llaw a dymuno pob hwyl i'r perchennog newydd ac, yn naturiol fe fu yntau hefyd yn bwyta llond ei fol!

Ni fu'r gwasanaeth heb ei eiliadau difyr!
Gan i'r bwyd gael ei osod ar fyrddau yn y stryd bu i lawer o bobl helpu eu hunain wrth fynd heibio gyda Kostas bron a chael haint yn ofni na fyddai digon ar ôl i'r gwahoddedigion!

Wrth fynychu gwasanaeth o'r fath mae'r gwahoddedigion yn mynd a rhodd fechan fel arwydd o gefnogaeth ac ymhen dim yr oedd y siop a'r palmant yn orlawn o blanhigion hyfryd.

Wedi eu hedmygu holodd un fenyw beth oedd pris un o'r planhigion gan dybio mai siop flodau oedd yna!



Bwyd blasusGofynnodd menyw arall am gilogram o'r bwydydd hyfryd!

Wedi i ffrind egluro mai engenia oedd yno ymddiheurodd y fenyw a symud yn ei blaen mewn penbleth!

Bu'r achlysur yn llwyddiant mawr. Y glaw wedi cadw draw a digon o bobl wedi dod i gefnogi'r crwt ieuanc ar ddechrau ei yrfa.

Kales ddoulies Yanni!





ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy