"Ac mae'r hyn a ddigwyddodd ar ddydd fy mhen-blwydd i eleni werth ei rannu." meddai Lynda Ganatsiou, Cymraes sy'n byw yng Ngwlad Groeg.
Ymgyrch Hellas - Everest 2004 Aros mae'r mynyddau mawr, Rhuo drostynt mae y gwynt Erbyn heddiw, dim ond ychydig o ymdrechion cenedlaethol sydd yna i ddringo Everest am y tro cyntaf gan fod bron pob gwlad sy'n mynydda wedi profi sawl llwyddiant yn barod.
Bu'r ymgais gyntaf Gwlad Groeg ar yr ochr ogleddol yn 1989 yn aflwyddiannus a throi'n ôl wedi cyrraedd 7,000 metr fu hanes ymgais arall yn 1993.
Y cynnig agosaf at lwyddiant fu yn 1996 pan gyrhaeddodd y tîm 8,100 metr ac yna, yn 1999 chwifiodd baner Groeg ar y copa o'r diwedd.
Hyd heddiw, parhaodd Everest yn her arbennig i ddyrniad o Alpeiddion o wlad Groeg a chyda'r holl sylw a gafodd y wlad yn ddiweddar yn sgil y Gemau Olympaidd bu disgwyl mawr am ymgyrch lwyddiannus i gopa uchaf y byd, 8.850 metr.
Wedi dethol dwsin o ddringwyr profiadol y nod oedd cael dau dîm o chwech i ddringo'r un pryd o gyfeiriadau gwahanol: y tîm gyntaf o'r gogledd gan gychwyn ar ochr Tibet a'r ail dîm o'r de o ochr Nepal.
Roedd y ffordd ogleddol yr un un a'r ymgyrch cyn y rhyfel a'r un ddeheuol yn un Y Fuddugoliaeth a ddilynodd yr ymgyrch lwyddiannus gyntaf yn 1953.
Rhan gyntaf yr ymgyrch Gadawyd Athen ar Fawrth 13 am Katmandu yn Nepal lle safodd y dynion am dair wythnos er mwyn cynefino â'r hin. Gwnaethpwyd hyn gan dilyn ymarfer dringo uchder o 000m-6.000 medr ar gopâu Kahla Patar ac Island Peak.
Ail ran yr ymgyrch Yma, rhannwyd yn ddau dîm cyn teithio i'r man cychwyn priodol. (Uchder o 300m -5.800m) ac oddi yno am y saith wythnos rhaid oedd i aelodau'r tîm ymgymryd â rhaglen ymgynefino ar y mynydd.
Trydedd ran yr ymgyrch Byddai'r rhan hon yn parhau pythefnos. Unwaith i'r darpariaeth gael ei chyflawni yn y gwersylloedd uchaf (7.900m - 8.200m) rhoddodd y ddwy ochr gynnig ar ymwthio tuag at y copa.
Unwaith iddynt gyrraedd y gwersyll olaf (Gwersyll 4) a sefydlwyd 7.900 metr i fyny aeth pum Groegwr dewr ymlaen am naw awr a hanner er mwyn cyrraedd 8,850 metr copa Everest ar Fai 17.
Ni allwn beidio â dyfalu tybed beth yw teimladau rhywun o gyrraedd copa'r byd as phan ofynnwyd iddynt beth oedd yn eu hofnau mwyaf, yr un ateb a roddywd oedd: "Popeth- a dim" gan ychwanegu fod i fywyd y ddinas yr faint o beryglon â llethrau'r mynydd!
Y byd yn ei law Gŵr o'r enw Giorgos Foutyropoulos a gyrhaeddodd gyntaf a hynny am chwech y bore. Yn naturiol, plannodd faner wen a glas ei wlad yno ac yn union wedyn cododd y faner Olympaidd fel symbol o heddwch byd a chwarae teg.
Gosododd yno hefyd lun o'i gymar, cyd-aelod y tîm a fu farw yr hydref diwethaf pan syrthiodd o grib Cho Oyu yr Himalayaid, tra'n paratoi ar gyfer yr ymdrech.
Cyflawnwyd yr ymdrech amhosib drwy ddyfalbarhad a gwireddwyd breuddwyd.
|