大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Sgwrsio am Gymru Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig
Gyda Dydd Gwyl Dewi yn dynesu penderfynodd Lynda Ganatsiou drefnu bore coffi Cymreig a Chymraeg i'w ffrindiau

Allai ddim credu fod Dydd Gwyl Dewi arall wedi mynd unwaith eto!

A minnau'n byw oddi cartref ers blynyddoedd bellach ni allwn adael i'r dydd arbennig yma fynd heibio heb ryw fath o ddathliad.

Ond, rhaid oedd meddwl am wneud rhywbeth allan o'r cyffredin.

Er imi lawn gyfarwyddo â gwahanol draddodiadau yma yng ngwlad Groeg, dydy' hyn ddim yn golygu imi anghofio am fy etifeddiaeth.

Anodd iawn, i mi yn bersonol, ydy ceisio cadw fy iaith yn fyw, a minnau heb neb i ymarfer â hwy felly mae'n hyfryd cael cyfle fel hwn i ysgrifennu neu gael ambell i ddiwrnod o fwynhau pethau Cymraeg a morio mewn atgofion!

Dod â'r gwanwyn i'r galon
Tymor maith ydy'r gaeaf a chan amlaf gall ymddangos yn ddiderfyn nes bod pawb, erbyn mis Chwefror, yn weddol isel eu hysbryd ac angen rhywbeth i ddod â'r gwanwyn i'w calon.

Dyna sut y cododd y syniad o gynnal bore coffi Gymraeg i'm ffrindiau.

Yn anffodus mi wnes i fwnglera pethau trwy rannu'r syniad â ffrind agos ac o'r diwrnod y soniais am y peth yr oedd yn ffonio'n ddi-baid i ofyn pa bryd . . .

Ni fu'n hir cyn i nifer o fenywod eraill ddod i wybod am y bwriad hefyd!!!

Gyda phawb yn awr yn sefyll am y dydd mawr bu'n rhaid imi wrth esgus am oedi ac yn wir llwyddais i ddodi'r bai ar Andreas fy mab, druan, trwy ddweud mai disgwyl am faner Cymru ganddo ef, sy'n gwneud gradd ymchwil yn Abertawe, yr oeddwn.

Wedi'r cyfan, ni allwn gynnal bore coffi Cymraeg heb Ddraig Goch

Gan mai dim ond dyrnaid o Gymry ydym yma, penderfynais ymestyn y gwahoddiad i fenywod o wledydd eraill hefyd er mwyn iddynt hwythau ddod i wybod am ein teisennau a'n cerddoriaeth draddodiadol!

Lluniais wahoddiadau personol i bawb ar fy nghyfrifiadur a labeli ar gyfer y bwyd fel bod y menywod o wledydd eraill yn gwybod beth oeddynt yn ei fwyta!!

Er mwyn eu cryfhau fe es i'r pentref i'w gorchuddio â phlastig.

Cosodd hyn chwilfrydedd perchennog y siop ac wrth fy nghlywed yn parablu rhyw eiriau rhyfedd wrth egluro iddo fo ymgasglodd cwsmeriaid eraill i weld beth oedd yn digwydd a beth oedd yr iaith ddieithr yma!

Gwisg draddodiadol
Yr unig beth oedd ar ôl yn awr oedd y coginio ac wedi hynny gwisgais y gorau ag y gallwn fel Cymraes draddodiadol er mwyn peri syndod pan agorwn y drws!

Yr unig anhawster oedd fod fy het Gymreig ar goll!

Yr oedd yn ddiwrnod heulog, braf, ond gan nad oedd y Cennin Pedr yn yr ardd wedi blodeuo mewn pryd bu'n rhaid defnyddio rhai gwneud.

Ar ochr chwith y bwrdd gosodais Rhiannon, y ddol Gymreig, wedi ei gwisgo yn ei gwisg genedlaethol.

Er mai Joanna fy merch biau hon mae lle arbennig iddi yn fy nghalon gan mai menyw o Bontarddulais lle cefais fy ngeni wnaeth ei dillad.


Dodais delyn bren ar ochr dde'r bwrdd.
Edrychai'r cyfan yn lliwgar a hynod ddeniadol wedi ei addurno â nifer o wrthrychau a theisennau traddodiadol.

Llanwodd arogl ffres y cacennau yr ystafell fyw a chodi digon o archwaeth ar yr ymwelwyr.

Yn union y tu ôl i'r bwrdd roeddwn wedi sicrhau'r Ddraig Goch ar y llenni a dyna drawiadol oedd hi â'r haul yn tywynnu drwyddi.

Roedd y syndod yn amlwg yn wynebau'r menywod a phawb yn casglu o gwmpas y bwrdd yn darllen y labeli a chael cip ar y cacennau a'r teisennau.

Rhuthro am y bwyd
Fel arfer y peth cyntaf a wneir ydy eistedd a sgwrsio ond y tro hwn ymosododd pawb ar y bwyd gan lwytho eu platiau yn ceisio profi popeth oedd ar gael gan gynnwys y sgoniau caws wedi eu gwneud â chaws Caerffili!!!



Recordiau CymraegYn gefndir yr oedd cerddoriaeth Gymraeg a gresyn na allai'r un o'r menywod eraill siarad Cymraeg ac ymuno â mi i ganu geiriau rhai o'r caneuon adnabyddus.

Ond fe ddaeth Mary Hopkin ag atgofion o'r chwedegau yn ôl iddynt!

Roedd gennyf nifer o hen LPs hefyd, o gorau meibion yn canu emynau a gwahanol ganeuon Cymraeg, ond cedwais y sain yn isel neu dyna lle y byddem â'r dagrau yn treiglo i lawr ein gruddiau wrth glywed darnau fel Tydi a Roddaist a Myfanwy!!!

Pawb yn dawnsio
Felly, er mwyn cadw ysbryd llon chwaraeais hefyd Dawnsiau Twmpath ac mewn dim o amser trodd tapio traed yn ddawnsio gwyllt!

Dros baned wedyn bu holi mawr am, Gymru a'r Gymraeg gan na wyddai'r rhan fwyaf o'r menywod o dramor fawr ddim am y Gymraeg gan dybio taw tafodiaith o'r Saesneg yw hi!

Ond o glywed yr iaith roeddynt wedi eu synnu'n fawr gan nad oeddynt wedi clywed dim tebyg iddi o'r blaen gydag ambell un yn tybio ei bod yn debyg i Arabeg ac eraill Iseldireg.

Ni wyddai rhai fod gennym ein baner ein hunain ychwaith!

Heblaw y menywod o dramor yr oedd yno hefyd fenyw o Abertawe, dwy o ardal Y Rhyl, un yn wreiddiol o Lanwnog ac un o Aberhonddu.

Yn anffodus ni allai'r unig un o'm cydnabod sy'n gallu siarad Cymraeg ddod.

Ta beth, fe werthfawrogodd pawb a ddaeth yr hwyl a'r miri.

Ni wnaeth neb ddim byd o'r fath o'r blaen a chyn cyrraedd nid oeddynt wedi sylweddoli y byddai'r bore yn cymryd y ffurf yma.

Nid bore coffi cyffredin mo hwn a chan iddo fod mor llwyddiannus yr oeddynt wrth eu boddau a bu sawl cais am resipi Teisen Lap, Bara Brith, Picau Bach ac ati..

Ac er na chefais innau gyfle i siarad Cymraeg fe fuom yn trafod llawer o bynciau yn ymwneud â'r henwlad.

Bu'n fore bendigedig, ac am rhyw oriau cefais deimlo nad mewn gwlad dramor yr oeddwn ond yn ôl yng Nghymru!

Ac yr oeddwn wrth fy modd pan ddywedodd fy ffrindiau na fyddant yn sefyll tan Ddydd Gwyl Dewi nesa' cyn cael Bore Coffi Cymraeg, eto.

Ac nid oes gwell geiriau na rhai T.H. Parry-Williams i grynhoi fy nheimladau wedi naw mlynedd ar hugain o fyw dramor:

Y mae'r blynyddoedd yn cuddio ond nid ydynt yn claddu.




ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy