Main content

Maria Brea

Soprano from Venezuela - 30 years old

I was born in Caracas and my father, a music teacher and cuatro player, taught me Venezuelan folk music from an early age. I’m a graduate of the Juilliard School of Music and Manhattan School of Music.

I was a semi-finalist in the Éva Marton International Voice Competition 2019. Recently, I won 6th prize and the Zarzuela prize at the 2020 Francesco Viñas Competition, which resulted in my debut at Barcelona’s Teatro Liceu in the winners’ concert. Other competition successes include first prize in the Giulio Gari (2017), New York Lyric Opera (2016) and second prize in the Gerda Lissner International Vocal Competition (2017). I was nominated as Best Actress in a Musical by ACE and awarded Best Musical Actress by the Hispanic Organization of Latin Actors for my performance as Elena in El barbero de Sevilla by Giménez with the New Camerata Opera. In April 2020, I was selected to take the role of Frasquita (Carmen) at the Rose Theater, Lincoln Center, New York, and made my debut as Olga (Fedora) in December 2020 with Teatro Grattacielo, New York. I also performed the title role in the world premiere of Anton Coppola's Lady Swanwhite with Opera Tampa.

Away from my performing career, I also research and curate Latin American Music and I’m the co-founder @latinawomeninopera on Instagram.

Maria Brea

Soprano, 30 oed, Venezuela

Cefais fy ngeni yn Caracas a dysgais am gerddoriaeth werin Venezuela o oed ifanc iawn gan fy nhad, oedd yn athro cerddoriaeth ac yn chwaraewr y cuatro. Mynychais Ysgol Gerdd Juilliard ac Ysgol Gerdd Manhattan.

Cyrhaeddais rownd gynderfynol Cystadleuaeth Leisiau Rhyngwladol Éva Marton 2019. Yn ddiweddar, deuthum yn chweched ac ennill gwobr Zarzuela yng Nghystadleuaeth Francesco Viñas 2020, ac yn sgil hynny cefais ganu am y tro cyntaf yn Teatro Liceu Barcelona yng nghyngerdd y buddugwyr. Ymhlith fy llwyddiannau cystadleuol eraill mae gwobr gyntaf y Giulio Gari (2017), New York Lyric Opera (2016) a’r ail wobr yng Nghystadleuaeth Ganu Ryngwladol Gerda Lissner (2017). Enwebwyd fi’n Actores Orau Mewn Sioe Gerdd gan ACE a dyfarnwyd fi’n Actores Orau Mewn Sioe Gerdd gan y Gymdeithas Ysbaenaidd i Actorion Lladin am fy mherfformiad fel Elena yn El barbero de Sevilla gan Giménez gyda’r New Camerata Opera. Yn Ebrill 2020, cefais fy newis i gymryd rhan Frasquita (Carmen) yn y Rose Theater, Lincoln Center, Efrog Newydd, a pherfformiais gyntaf fel Olga (Fedora) yn Rhagfyr 2020 gyda Teatro Grattacielo, Efrog Newydd. Perfformiais y brif ran hefyd ym mherfformiad cynta’r byd o waith Anton Coppola, Lady Swanwhite gydag Opera Tampa.

Ar wahân i’r perfformio, rwyf hefyd yn ymchwilio ac yn curadu Cerddoriaeth America Ladin ac yn gyd-sefydlydd @latinawomeninopera ar Instagram.