Main content

Michael Arivony

Baritone from Madagascar - 28 years old

I’m originally from Madagascar, where the popularity of classical music is growing slowly but, thanks to my sponsors and generous supporters, l was able to come to Europe and dedicate myself fully to music. I completed my degree at the Royal Academy of Music in London, and my Masters at the Hochschule für Musik Franz Liszt in Weimar.

My love for classical music began with art songs, especially Lieder, and I dedicated the first years of my studies to this repertoire. Since coming to Europe I have won prizes at the Das Lied International Competition in Heidelberg 2019, the Opera en Arles Competition 2019 and the International Student Lied Duo 2019 (Netherlands). I’ve also taken part in the Academie Orsay-Royaumont, the Krzyzowa Music Festival and been a guest conductor of the Chineke! Orchestra. My operatic experience so far includes Dancaire (Carmen), Leporello and Masetto (Don Giovanni), Barone Duphol (La traviata) and Poliphemus (Acis and Galetea). Currently, I’m a member of the Opera Studio of the Wiener Staatsoper.

Outside music, I enjoy photography, shooting landscapes, cityscapes and portraits for friends. I also love cooking and like to experiment with new dishes. In 2017, I founded a non-profit organisation to support music education in Madagascar.

Michael Arivony

Bariton, 28 oed, Madagascar

Rwy’n hanu’n wreiddiol o Madagascar, lle mae poblogrwydd cerddoriaeth glasurol yn tyfu’n araf, ond diolch i’m noddwyr a’m cefnogwyr hael, llwyddais i ddod i Ewrop ac ymroi’n gyfan gwbl i gerddoriaeth. Cwblheais fy ngradd yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, a’m gradd Meistr yn yr Hochschule für Musik Franz Liszt yn Weimar.

Caneuon celf, a Lieder yn arbennig, oedd man cychwyn fy nghariad at gerddoriaeth glasurol, a chysegrais flynyddoedd cyntaf fy astudiaethau i’r repertoire hwn. Ers dod i Ewrop rwyf wedi ennill gwobrau yng nghystadleuaeth ryngwladol Das Lied yn Heidelberg 2019, cystadleuaeth Opera en Arles 2019 a’r gystadleuaeth Deuawd Lied ryngwladol i fyfyrwyr yn 2019 (yr Iseldiroedd). Rwyf hefyd wedi cymryd rhan yn yr Academie Orsay-Royaumont, G诺yl Gerddoriaeth Krzyzowa ac wedi bod yn arweinydd gwadd i Gerddorfa Chineke!. Mae fy mhrofiad hyd yn hyn ym myd opera’n cynnwys Dancaire (Carmen), Leporello a Masetto (Don Giovanni), Barone Duphol (La traviata) a Poliphemus (Acis and Galetea). Ar hyn o bryd, rwy’n aelod o Stiwdio Opera y Wiener Staatsoper.

Y tu allan i gerddoriaeth, rwy’n mwynhau ffotograffiaeth, gan dynnu tirluniau, lluniau dinesig a phortreadau i ffrindiau. Rwyf wrth fy modd yn coginio hefyd, ac yn hoffi arbrofi gyda seigiau newydd. Yn 2017, sefydlais gorff dielw i gefnogi addysg gerddoriaeth ym Madagascar.