Main content

Sarah Gilford

Soprano from Wales - 29 years old

I began my vocal training at the age of nine and took part in a variety of performing opportunities in concerts, competitions and Eisteddfods. Earlier this year, I was the winner of the Welsh Singers Showcase 2021, which means I have the honour of representing Wales in 大象传媒 Cardiff Singer of the World, here in the city where I was born.

I studied at the Royal Academy of Music, where I was a chosen RAM/Kohn Foundation Bach Scholar and a member of the RAM Song Circle. During my studies I was recognised and supported by the Samling Institute, the Imogen Cooper Musical Trust and Leeds Lieder. These opportunities prepared me for concert work internationally including a performance of Fazil Say’s Goethe-Lieder with the Georgisches Kammerorchester.

I’m a member of the Bayerische Staatsoper Opernstudio in Munich where my roles for 2020/21 season included the title role in Mignon, Giannetta (L’elisir d’amore), Dew Fairy (Hänsel und Gretel), Shepherd (Tannhäuser) and Barbarina (Le nozze di Figaro).

Later this year, I will be joining the ensemble at Klagenfurt Stadttheater in Austria, where I will be performing a number of roles including Susanna (Le nozze di Figaro) and Gilda (Rigoletto).

During my free time, I enjoy baking and running, which I find complement each other well!

Sarah Gilford

Soprano, 29 oed, Cymru

Dechreuais fy hyfforddiant lleisiol yn naw mlwydd oed gan gymryd rhan mewn amrywiaeth o gyfleon perfformio, yn gyngherddau, cystadlaethau ac eisteddfodau. Yn gynharach eleni, deuthum yn fuddugol yn Llwyfan Cantorion Cymreig 2021, sy’n golygu y caf y fraint o gynrychioli Cymru yng Nghystadleuaeth 大象传媒 Canwr y Byd Caerdydd, yma yn y ddinas lle cefais fy ngeni.

Astudiais yn yr Academi Gerdd Frenhinol, lle dewiswyd fi yn Ysgolor Bach yr Academi/Sefydliad Kohn ac yn aelod o Gylch Canu’r Academi. Yn ystod fy astudiaethau cefais gydnabyddiaeth a chefnogaeth gan Sefydliad Samling, Ymddiriedolaeth Gerdd Imogen Cooper a Leeds Lieder. Roedd y cyfleon hyn yn baratoad ar gyfer gwaith cyngerdd yn rhyngwladol gan gynnwys perfformiad o Goethe-Lieder Fazil Say gyda’r Georgisches Kammerorchester.

Rwy’n aelod o’r Bayerische Staatsoper Opernstudio yn Munich lle roedd fy rhannau ar gyfer tymor 2020/21 yn cynnwys y brif ran yn Mignon, Giannetta (L’elisir d’amore), Dew Fairy (Hänsel und Gretel), Bugail (Tannhäuser) a Barbarina (Le nozze di Figaro).

Yn ddiweddarach eleni, byddaf yn ymuno â’r ensemble yn Klagenfurt Stadttheater yn Awstria, lle byddaf yn perfformio nifer o rannau’n cynnwys Susanna (Le nozze di Figaro) a Gilda (Rigoletto).

Yn ystod fy amser rhydd, rwy’n mwynhau pobi a rhedeg, dau weithgaredd sydd, i mi, yn bâr da!