大象传媒

Etifeddiaeth gan Gerallt Lloyd OwenMesur

Fel cynifer o gerddi Gerallt Lloyd Owen mae hon yn ymdrin 芒 Chymru a Chymreictod. Mae'r bardd yn trafod pwysigrwydd tir, hanes ac iaith i unrhyw genedl, a鈥檙 bygythiadau sy鈥檔 eu hwynebu yng Nghymru.

Part of Llenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Mesur

Cerdd benrydd gynganeddol yw hon. Mae hyn yn golygu bod:

  • hyd y llinellau yn amrywio
  • dim patrwm o ran odl na sillafau
  • cynghanedd ym mhob llinell

Mae dewis y bardd o fesur yn ddiddorol yn y gerdd hon. Er ei bod yn edrych yn debyg i gerdd benrydd ar yr olwg gyntaf, mae cynghanedd ym mhob llinell. Mae鈥檙 gynghanedd a鈥檙 mesurau caeth yn rhan o鈥檔 traddodiad a鈥檔 hetifeddiaeth farddonol yn y Gymraeg.

Trwy gyfuno鈥檙 mesur caeth traddodiadol a鈥檙 mesur penrydd modern mae鈥檔 llwyddo i blethu鈥檙 syniad ein bod mewn perygl o golli ein hetifeddiaeth os na frwydrwn drosti. Mae鈥檙 gynghanedd yn bendant ac yn angerddol. Mae cyfuno鈥檙 traddodiadol a鈥檙 cyfoes yn pwysleisio pwysigrwydd ein hanes a鈥檔 diwylliant i ni heddiw.

Cynghanedd

Dyma enghraifft o gynghanedd groes, lle mae'r cytseiniaid yn ail ran y llinell yn cyfateb 芒'r cytseiniaid yn y rhan gyntaf:

Enghraifft o gynghanedd - 'A throesom iaith yr oesau' gyda'r llythrennau "th r / s | th r / s" uwch ei ben.