Ymholltiad niwclear yw pan mae niwclews ymbelydrol yn hollti i ryddhau egni. Mae gwrthdrawiadau ag egni uchel rhwng niwclysau ysgafn yn gallu arwain at ymasiad, sy'n rhyddhau egni.
Mae鈥檙 adweithydd niwclear wedi'i leoli mewn cynhwysydd gwasgedd dur mewn adeilad cyfyngiant arall, sydd fel arfer wedi'i wneud o goncrit. Mae'r adeilad cyfyngiant yn amgylchynu'r adweithydd niwclear. Mae gan bron pob atomfa adeilad cyfyngiant.
Mae'r adeilad cyfyngiant wedi'i gynllunio:
i sicrhau bod defnydd ymbelydrol yn cael ei gadw i mewn dan unrhyw amodau
i sicrhau bod yr atomfa wedi'i hamddiffyn rhag unrhyw ddigwyddiad