Dadfeiliad niwclear ac egni niwclearCynhyrchu p诺er o danwyddau niwclear
Ymholltiad niwclear yw pan mae niwclews ymbelydrol yn hollti i ryddhau egni. Mae gwrthdrawiadau ag egni uchel rhwng niwclysau ysgafn yn gallu arwain at ymasiad, sy'n rhyddhau egni.
Mae adweithyddion niwclear yn defnyddio'r gwres o adweithiau niwclear yn y tanwydd niwclear i ferwi d诺r. Fel mewn gorsafoedd trydan confensiynol, mae'r ager o'r d诺r berwedig yn troelli tyrbin, sydd yn ei dro'n troi'r generadur.
Yn wahanol i orsafoedd trydan confensiynol, fodd bynnag, dydy atomfeydd ddim yn rhyddhau carbon deuocsid, felly dydy eu defnyddio nhw ddim yn cyfrannu at gynhesu byd-eang.
Mae ymbelydredd 茂oneiddioMae pelydrau-X yn enghreifftiau o ymbelydredd 茂oneiddio. Gall ymbelydredd 茂oneiddio achosi mwtaniadau mewn DNA. yn yr adweithydd ei hun yn cael ei atal rhag dianc gan furiau dur a choncrit. Mae hyn yn bwysig oherwydd mae ymbelydreddEgni sy'n cael ei gludo gan ronynnau o sylwedd ymbelydrol, neu'n lledaenu o ffynhonnell. yn gallu achosi canser.
Mae'r gwastraff o atomfeydd yn ymbelydrol felly mae hwn yn gallu bod yn niweidiol hefyd. Mae plwtoniwm yn un o gynhyrchion gwastraff adweithyddion niwclear. Gellir ei ddefnyddio i wneud bomiau niwclear.