Osgled, tonfedd a buanedd
Osgled
Wrth i donnau deithio, maen nhw鈥檔 creu patrymau cynnwrf. Osgled ton ydy ei chynnwrf mwyaf o鈥檌 safle digynnwrf.
Tonfedd
Tonfedd (位) ton yw'r pellter rhwng pwynt ar un don a'r un pwynt ar y don nesaf. Yn aml, y ffordd hawddaf o fesur hyn yw o frig (top) un don i frig y don nesaf, neu o gafn (gwaelod) un don i gafn y don nesaf. Does dim ots ble rwyt ti'n ei fesur, cyn belled 芒'i fod ar yr un pwynt ar bob ton (chwilia am lle mae'r patrwm yn ailadrodd).
Dylet ti hefyd allu cyfrif nifer y tonnau mewn diagram.
Dylet ti allu gweld bod y diagram isod yn cynnwys tair ton 鈥 mae'r patrwm yn ailadrodd tair gwaith.
Amledd
Amledd ton ydy nifer y tonnau sy鈥檔 cael eu cynhyrchu gan ffynhonnell bob eiliad.
Uned amledd ydy鈥檙 hertz (Hz). Mae鈥檔 beth cyffredin i鈥檙 unedau cilohertz (kHz), megahertz (MHz) a gigahertz (GHz) gael eu defnyddio os oes gan y tonnau amleddau uchel iawn.
Cynrychioli ton ardraws mewn graff
Mae angen i ti wybod am ddau fath o graff rydyn ni'n gallu eu defnyddio i gynrychioli tonnau ardraws:
- graffiau dadleoliad-pellter
- graffiau dadleoliad-amser
Dadleoliad-pellter
Mae graff dadleoliad-pellter yn giplun o'r don ar unrhyw adeg benodol.
Dylet ti allu cyfrifo tonfedd ton o graff dadleoliad-pellter.
Question
Faint o donnau cyflawn sydd wedi'u dangos yn y diagram? Dylai dy ateb gynnwys y donfedd a'r osgled.
Mae'r diagram yn dangos 2 don gyflawn.
Y donfedd yw hyd un don, 40 cm.
Yr osgled yw uchder y don, 10 cm.
Dadleoliad-amser
Mae graff dadleoliad-amser yn dangos sut mae dadleoliad un pwynt ar y don yn amrywio dros amser.
Dylet ti allu cyfrifo amledd ton o graff dadleoliad-amser 鈥 cofia mai'r amledd yw nifer y tonnau bob eiliad.
Question
Cyfrifa amledd y tonnau sydd wedi'u dangos yn y diagram.
Yr amledd yw nifer y tonnau bob eiliad.
Os yw'n cymryd 0.1 s i gynhyrchu 1 don, bydd 10 ton yn cael eu cynhyrchu bob eiliad a bydd yr amledd yn 10 Hz.