大象传媒

Llinellau maes magnetig

Mae yn creu meysydd magnetig. Allwn ni ddim gweld y meysydd magnetig hyn. Maen nhw'n llenwi鈥檙 lle o gwmpas magnet lle mae鈥檙 grymoedd magnetig yn gweithio, a lle gallant atynnu neu wrthyrru defnyddiau magnetig.

Dod o hyd i feysydd magnetig

Er na allwn ni weld meysydd magnetig, gallwn ni ddefnyddio naddion haearn i鈥檞 canfod nhw. Mae鈥檙 darnau bach o haearn yn trefnu eu hunain mewn maes magnetig.

Image caption,
Llinellau maes o gwmpas barfagnet

Lluniadu diagramau meysydd magnetig

Byddai鈥檔 anodd lluniadu canlyniadau鈥檙 math o arbrawf sydd wedi鈥檌 ddangos yn y ffotograff, felly rydyn ni鈥檔 lluniadu llinellau maes magnetig syml yn lle hynny.

Diagram o far magnet sy'n dangos llinellau maes magnetig yn mynd o begwn gogledd y magnet i begwn de鈥檙 magnet.

Sylwa yn y diagram:

  • mae saethau ar y llinellau maes
  • mae鈥檙 llinellau maes yn dod allan o G (辫么濒 gogledd) ac yn mynd i mewn i D (辫么濒 de)
  • mae鈥檙 llinellau maes yn agosach at ei gilydd wrth y

Mae鈥檙 maes magnetig ar ei gryfaf wrth y polau, lle mae鈥檙 llinellau maes agosaf at ei gilydd.

Dau farfagnet

Mae'r diagram hwn yn dangos y patrwm maes magnetig wrth ddefnyddio dau fagnet.

Diagram yn dangos llinellau maes magnetig ar gyfer un bar magnet, dau fagnet gyda pegynnau gwahanol yn denu, a dau fagnet gyda pegynnau tebyg yn gwrthyrru.
Figure caption,
Llinellau maes magnetig ar gyfer meysydd sy'n cynnwys dau fagnet

Sylwa ar y gwahanol batrymau sydd i'w gweld wrth ddefnyddio dau b么l yr un fath a dau b么l gwahanol.

Maes magnetig unffurf

Os yw llinellau maes magnetig yr un pellter oddi wrth ei gilydd, rydyn ni'n dweud bod y maes magnetig yn unffurf.

Mae鈥檙 diagram yn dangos hyn:

Diagram yn dangos y llinellau maes magnetig mewn maes unffurf.
Figure caption,
Llinellau maes magnetig mewn maes unffurf

Mae鈥檙 wybodaeth ganlynol ar gyfer disgyblion haen uwch yn unig.

Diagram yn dangos llinellau fflwcs magnetig rhwng dau b芒r o fagnetau. Mae mwy o linellau wedi鈥檜 tynnu rhwng B nag A gan ddangos fod magnet B yn gryfach na magnet A.

I gyfrifo cryfder grym magnetig ar wifren, rhaid i ti ganfod y . Rydyn ni'n mesur hyn mewn uned o鈥檙 enw tesla. Rydyn ni'n tynnu llinellau i ddangos y cyfeiriad ar b么l gogledd magnet i gynrychioli hyn. Rydyn ni'n galw'r rhain yn llinellau fflwcs magnetig, ac maent wedi'u dangos yn y diagram uchod. Mae'r magnet yn niagram B yn gryfach na'r magnet yn niagram A. Mae mwy o linellau'n golygu grym atynnu cryfach.