大象传媒

Adeiledd y Ddaear

Mae gan y Ddaear adeiledd haenog sy'n cynnwys y craidd, y fantell a'r gramen. Mae'r gramen a'r fantell uchaf wedi'u cracio'n ddarnau mawr o鈥檙 enw platiau tectonig. Mae'r platiau hyn yn symud yn araf, ond maent yn gallu achosi daeargrynfeydd a llosgfynyddoedd yn y mannau lle maent yn cwrdd. Tonnau seismig sy鈥檔 cael eu cynhyrchu gan ddaeargrynfeydd. Maen nhw鈥檔 cael eu monitro gan arbenigwyr maes - daearegwyr.

Diagram yn dangos trawstoriad o adeiledd y Ddaear. Gan fynd o鈥檙 tu allan i mewn, mae鈥檙 Gramen, y Fantell, y Craidd allanol a鈥檙 Craidd mewnol wedi鈥檜 labelu.
Figure caption,
Trawstoriad yn dangos adeiledd y Ddaear

Mae鈥檙 Ddaear bron iawn yn sff锚r. Dyma鈥檙 prif haenau, gan ddechrau gyda鈥檙 un mwyaf allanol:

  1. cramen 鈥 cymharol denau a charegog
  2. mantell 鈥 mae gan y fantell nodweddion solid ond mae鈥檔 gallu llifo鈥檔 araf iawn
  3. craidd allanol 鈥 wedi ei wneud o nicel hylifol a haearn
  4. craidd mewnol 鈥 wedi ei wneud o nicel solid a haearn

Sylwa fod radiws y craidd ychydig dros hanner radiws y Ddaear. Mae'r craidd ei hun yn cynnwys craidd mewnol solid a chraidd allanol hylifol.

Tonnau P a thonnau S

Mae dau fath o donnau seismig 鈥 tonnau P a thonnau S.

Mae tonnau P yn donnau arhydol, ac mae eu buanedd cymharol yn gynt na thonnau eraill. Gall tonnau P deithio drwy solidau a hylifau.

Mae tonnau S yn donnau ardraws, ac maen nhw鈥檔 arafach na thonnau P. Maen nhw鈥檔 teithio drwy solidau yn unig.

Mae tonnau arwyneb yn donnau arhydol hefyd. Tonnau arwyneb yw鈥檙 arafaf. Maen nhw鈥檔 teithio ar hyd arwyneb y Ddaear.