大象传媒

Defnyddio ymbelydredd

Mesur trwch papur

Mewn melin rholio papur, mae trwch y papur yn cael ei fonitro yn 么l faint o sy'n cael ei dderbyn yn y canfodydd.

Question

Pam defnyddio ymbelydredd beta?

Question

Fyddai hanner oes y ffynhonnell beta yn hir neu'n fyr?

Diheintio offer meddygol ac ymestyn oes ffrwythau

Mae yn lladd microbau a gallwn ni ei ddefnyddio i ddiheintio offer meddygol a lladd y bacteria ar ffrwythau a llysiau fel eu bod nhw'n aros yn ffres am hirach.

Larymau mwg

Rydyn ni'n defnyddio isotop o americiwm sy'n allyrru mewn larymau mwg. Mae ymbelydredd alffa yn aer, sy'n golygu bod cerrynt bach yn gallu llifo rhwng dau electrod. Mae p诺er treiddio alffa yn wan felly mae mwg yn ei atal, mae'r cerrynt yn lleihau ac mae'r larwm yn seinio.

Mae angen isotop sy'n allyrrydd alffa 芒 hanner oes hir. Mae hyn yn golygu na fydd angen newid y larwm mwg bob dydd.

Olinyddion gwaed a hylifau

Olinydd yw rhywbeth sy'n dangos sut mae gwrthrych yn symud. Rydyn ni'n ychwanegu olinyddion ymbelydrol at hylifau i weld a ydyn nhw'n llifo'n iawn. Maen nhw'n gallu dangos symudiad llygredd, er enghraifft carthion neu olew gwastraff o ffatr茂oedd, ond rydyn ni'n eu defnyddio nhw gan fwyaf ym maes meddygaeth i fonitro llif gwaed.

Mae tecnetiwm-99, sy'n ffynhonnell gamahanner oes byr o tua chwech awr, yn cael ei chwistrellu i'r gwaed. Mae rhwystrau mewn rhydwel茂au neu waedu mewnol yn achosi i ymbelydredd gronni, ac mae'n hawdd canfod hyn o'r tu allan i'r corff. Rydyn ni'n defnyddio'r un egwyddor i ganfod gollyngiadau mewn pibellau tanddaearol. Bydd gollyngiad yn achosi i gronni, a gallwn ni ganfod hyn o uwchben y ddaear.

Question

Pam dewis ffynhonnell gama 芒 hanner oes byr?

Trin canser

Croestoriad o berson sy'n cael triniaeth am ganser mewn offer radiotherapi. Mae鈥檙 diagram wedi'i labelu 芒 Cobalt ymbelydrol, Pelydrau gama, Helmed, a Targed.

Yn allanol gallwn ni baladru ymbelydredd gama at gelloedd canser i'w lladd nhw. Dylid defnyddio ffynhonnell gama 芒 hanner oes hir i gynnal dos yr ymbelydredd sy'n cyrraedd y tiwmor. Mae hanner oes hir hefyd yn golygu na fydd angen newid y ffynhonnell yn y cyfarpar radiotherapi yn rhy aml.

Yn fewnol, gallwn ni chwistrellu ffynhonnell alffa 芒 hanner oes byr yn uniongyrchol i mewn i'r tiwmor. Therapi alffa wedi'i dargedu yw hyn. Mae alffa yn 茂辞苍别颈诲诲颈辞'n gryf 鈥 felly bydd yn lladd y celloedd canser. Hefyd, mae ei b诺er treiddio'n wan felly mae'n aros y tu mewn i'r tiwmor heb niweidio'r celloedd iach y tu allan i'r tiwmor.

Dyddio carbon-14

Mae pethau byw fel planhigion ac anifeiliaid yn amsugno carbon-14 bob dydd. Ar 么l i ni farw, dydyn ni ddim yn amsugno mwy o carbon-14 ac mae dadfeiliad yr isotop yn dilyn y gromlin dadfeiliad arferol.

Mae hanner oes carbon-14 yn 5,730 mlynedd. Os ydyn ni'n dod o hyd i blanhigyn neu asgwrn wedi'i ffosileiddio sy'n cynnwys 25% o'r carbon-14 fyddai ynddo pan oedd yn fyw, bydden ni'n gwybod bod y ffosil yn 11,460 mlwydd oed oherwydd byddai dau hanner oes wedi mynd heibio.

100% 鈫 50% 鈫 25%

Dau hanner oes 脳 5,730 mlynedd = 11,460 mlynedd.