Pam ydyn ni'n gwybod ein taldra mewn troedfeddi a modfeddi ond byth yn defnyddio鈥檙 unedau hyn ar gyfer pethau eraill?
Mae'r hen system imperial o fesur bron 芒 diflannu o gymdeithas, ond mae'n parhau mewn rhai meysydd. Mae taldra yn un enghraifft o hyn.
Serch hynny, mae angen ffordd i drosi rhwng cm a modfeddi arnom, felly byddwn ni'n defnyddio'r brasamcan canlynol:
1 modfedd = 2.5 cm (yr union werth yw 2.54).
Hefyd mae'n ddefnyddiol cofio bod pren mesur 30 cm oddeutu 12 modfedd o hyd neu 1 troedfedd.
Question
Oddeutu sawl modfedd sydd mewn 45 cm?
45 梅 2.5 = 18.
45 cm yw 18 modfedd yn fras.
Question
Brasamcana 13 modfedd mewn milimetrau.
13 脳 2.5 = 32.5 (brasamcan modfeddi i cm).
32.5 脳 10 = 325 (trosi cm i mm).
Felly 13 modfedd yw 325 mm yn fras.
Rydyn ni angen ffordd i newid o droedfeddi i cm hefyd. 1 troedfedd yw 12 modfedd neu 30.5 cm yn fras, felly i drosi o cm i fodfeddi rydyn ni'n rhannu 芒 30.5.