大象传媒

Ffurfio cysawd yr haul

Sut mae system fel cysawd yr haul yn ffurfio?

Mae cwmwl dwys o nwy a llwch, sy鈥檔 cynnwys llawer o hydrogen, yn cyfangu dan ddisgyrchiant. Wrth i鈥檙 nwy gywasgu, mae ei dymheredd yn cynyddu ac mae鈥檙 cwmwl o lwch yn dechrau troelli. Mae yn dechrau ffurfio yng nghanol y cwmwl o lwch sy鈥檔 troelli. Mae yn dechrau, ac mae seren wedi鈥檌 geni. Mae鈥檙 planedau鈥檔 dechrau ffurfio o鈥檙 cymylau o lwch sy鈥檔 troelli o gwmpas y seren.

Mae disgyrchiant yn gryfach yn nes at y seren. Mae鈥檙 rhan fwyaf o鈥檙 defnydd dwys yn y cwmwl o lwch yn cael ei atynnu鈥檔 gryf, ac yn diweddu yn y fan hon.

Y planedau creigiog mewnol a鈥檙 cewri nwy

Mae鈥檙 pedair planed fewnol (Mercher, Gwener, y Ddaear a Mawrth) yn greigiog ac mae ganddyn nhw arwynebau solid y byddai rhywun yn gallu cerdded arnynt.

Pan ffurfiodd cysawd yr haul, roedd creigiau (a defnyddiau dwys, trwm eraill yn y cwmwl o lwch fel haearn ac wraniwm) yn tueddu i gasglu鈥檔 agosach at yr Haul, a chyfunodd y defnyddiau hyn gyda鈥檌 gilydd i ffurfio鈥檙 planedau mewnol.

Cewri nwy yw鈥檙 pedair planed allanol (Iau, Sadwrn, Wranws a Neifion). Pan ffurfiodd cysawd yr haul, casglodd sylweddau nwyol gyda鈥檌 gilydd yn bellach oddi wrth yr haul i ffurfio鈥檙 cewri nwy.