大象传媒

Llwybr tonnau P a thonnau S drwy'r Ddaear

Mae cyflymder tonnau P a thonnau S yn cynyddu wrth iddyn nhw deithio鈥檔 ddyfnach i mewn i y Ddaear.

Maen nhw鈥檔 teithio trwy鈥檙 Ddaear ar lwybrau crwm, ond maen nhw鈥檔 newid cyfeiriad yn sydyn wrth basio trwy鈥檙 ffin rhwng sylweddau mewn gwahanol gyflyrau.

Mae鈥檙 diagramau鈥檔 dangos beth sy鈥檔 digwydd pan fydd tonnau P a thonnau S yn pasio trwy鈥檙 Ddaear.

Tonnau P

  • arhydol
  • symud yn gyflym
  • teithio trwy hylifau a solidau鈥檔 unig
Diagram yn dangos llwybr crwm tonnau P trwy鈥檙 Ddaear. Maen nhw鈥檔 teithio drwy鈥檙 fantell, y craidd allanol hylifol a鈥檙 craidd mewnol solid.
Figure caption,
Mae tonnau P yn gallu pasio trwy graidd y Ddaear

Tonnau S

  • ardraws
  • symud yn araf
  • teithio trwy solidau鈥檔 unig
Diagram yn dangos llwybr crwm tonnau S trwy鈥檙 Ddaear. Maen nhw鈥檔 teithio drwy鈥檙 fantell, ond ni allant deithio drwy鈥檙 craidd allanol hylifol.
Figure caption,
Dydy tonnau S ddim yn pasio trwy graidd y Ddaear

Dydy tonnau S ddim yn gallu mynd drwy'r craidd allanol hylifol, ond mae tonnau P yn gallu gwneud hynny. Mae'r tonnau'n plygu wrth iddynt deithio drwy'r Ddaear oherwydd bod dwysedd y cyfrwng yn newid. Mae hyn yn achosi i'r tonnau deithio ar hyd llwybrau crwm. Pan mae'r tonnau'n croesi'r ffin rhwng dwy haen wahanol, mae eu cyfeiriad yn newid yn sydyn oherwydd plygiant.

Question

Cymhara briodweddau tonnau P, tonnau S a thonnau arwyneb.