|
|
Awstralia - gair o gyngor
Cynghorion Gwenan i rai sy'n bwriadu ymweld - yn sydyn - ag Awstralia.
|
Trefnwch aelodaeth o'r YHA (Youth Hostel Association) cyn cychwyn mae hyn yn eich galluogi i gael disgownt yn rhai hosteli, bysiau a thripiau.
Peidiwch â chario llawer o siampw, sebonau a 'ballu gan eu bod yn ddigon rhad yno.
Mae hyn hefyd yn wir am ddillad, felly peidiwch a chychwyn ar y daith gyda ches llawn cofiwch fod angen lle i'r holl anrhegion y byddech yn eu prynu!
Prynwch deithlyfr Lonely Planet gan ei fod yn cael ei ddiweddaru'n aml a wedi ei ysgrifennu yn well na llawer o'i gystadleuwyr.
Peidiwch â defnyddio cardiau ffôn - gall rhai fod yn ddrud ac yn anodd i'w deall. Mae'n haws ffonio o gaban yn un o'r canolfannau rhyngrwyd lle'r ydych yn talu ar ôl yr alwad ffôn.
Os oes gennych yr arian, mae'n werth uwchraddio i gael dosbarth busnes ar yr awyren gan ei bod yn daith mor hir a blinedig. Mae'r seddi yn fwy gyda digon o le i'ch coesau, yn ogystal â chael bwyd gwell a mwy o sylw!
Os ydych am deithio ar fws yn Awstralia ewch gyda chwmni Mc Cafferty's - ar ôl prynu tocyn mae modd neidio torri siwrnai fel y mynnwch.
Mae'n werth mynd i asiantaeth deithio fel Backpacker Travel Centre os ydych yn teithio Awstralia. Gallant drefnu popeth ar gyfer eich lleoliad nesaf -. bws, hostel, gwibdeithiau ac ati.
Os yn ymweld â'r Great Barrier Reef, ewch ar daith sydd yn cynnig dau ddiwrnod neu fwy er mwyn cael cyfle i aros ar yr ynysoedd ac hefyd snorclo a deifio scwba.
Gwell teithio o Cairns i Dawrin (neu Dawrin i Cairns) mewn awyren yn ogystal ag arbed deuddydd o deithio mewn bws mae hefyd yn rhatach!
Os yn hoff o'ch cwrw, yfwch Victoria Bitter - VB fel mae'n cael ei alw yno. Er yr enw, lager ydi o a'r union beth i wneud ichi deimlo fel Osi go iawn!
|
|