大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Tair Cymraes yn Awstralia
Bu Sarah Marion Jones sy'n dod o Lanbedrog ger Pwllheli yn teithio yn Awstralia efo Lisa Charles o Lanuwchllyn a Sian Jones o'r Frongoch ger Y Bala. Sarah sy'n dweud eu hanes yn hela moch gwyllt yn nhywyllwch nos.

Hela moch gwyllt
Dim ond pedair fflachlamp oedd ganddom y noson honno.
Gwirion braidd o gofio fod yna ddeg ohonom i gyd ac i'r hogia fynd efo'r golau i gyd a'n gadael ni'r genod yn sefyll mewn clwstwr yng nghanol cae yn holi'n gilydd, "Are there snakes here?"
"Probably".


Canol Ionawr oedd hi a ninnau yn nhref Bingara ar lannau Afon Gwydir yn nhalaith New South Wales.

Yma mae canolfan farchogaeth felly roeddwn i a Lisa yn awyddus i aros am wythnos.

Bob bore byddai'r perchnogion, John a Cathy, yn mynd â chriw ohonom ar gefn ein ceffylau am reid ar hyd ochr y dwr, gan stopio i nofio ar y ffordd.

Adar yn sgrechian
Profiad bendigedig oedd mynd drwy'r coed lle roedd parotiaid yn hedfan uwchben a'r Kukaburra yn sgrechian.

Ar y dydd Llun cawsom noson wirioneddol Aussie-wledig gyda gwahoddiad i fynd am farbeciw i dy Mick - mab John a Cathy - a'i gariad. Roedd criw o tua 10 ohonom, oll yn backpackers o bob rhan o'r byd.

Byrgyrs a snags
Wedi stwffio'n hunain ar fyrgers a snags dyma benderfynu mynd i hela moch gwyllt

Mae hwn yn arferiad digon cyffredin mewn ardaloedd gwledig gan fod moch gwyllt yn bla sy'n malu tir ac eiddo ffermwyr.

Dangosodd Mick ei albwm lluniau o helfeydd inni - roedd fel heliwr saffari yn dangos ei trophies.

Roedd hi wedi deg y nos arnom yn cychwyn ac wedi tywyllu ers meitin. Neidiodd pawb i'r ute (cerbyd gwaith) ac i ffwrdd a ni ar hyd lonydd bychain, garw, a thrwy gaeau cymdogion Mick.

Golau spotlight ar dop y cerbyd a ddefnyddiwyd i chwilio am y bwystfil ac er inni ddychryn cannoedd o gangarws 'doedd yna dim golwg o fochyn gwyllt.

Ond yn sydyn aeth y pedwar ci yn lloerig! Roeddem ar y trywydd iawn!

Gadawsom yr ute ar ochr y ffordd gan redeg ar ôl y cwn ar draws caeau a'r gwair tal yn cyffwrdd fy wyneb a'r cyfarth yn atsain dros bobman. Nid wyf erioed wedi teimlo'r ffasiwn ofn or blaen - ond roedd y cynnwrf yn fy ngwthio ymlaen.

Yn y tywyllwch mewn cae
A dyna pam roeddwn i a Lisa yn sefyll mewn cae efo dieithriaid, yn methu gweld dim pellach na'n trwynau yn gweddio na fuasai'r Death Adder na 'run o'i chefndryd dychrynllyd yn galw heibio y noson honno.

Er i'r hogiau ein gadael am beth oedd yn teimlo fel oriau, ddaliwyd dim byd ac roedd y siom yn amlwg ar wyneb Mick - heb luniau i'w hychwanegu at ei albwm!

Wrth yrru'n ôl i'n llety am 1.30 yn y bore roeddwn i a Lisa yn chwerthin wedi noson mor ryfeddol.

Ac i goroni'r cyfan, roedd yn noson serog, glir a phetawn i ond wedi gallu ymestyn y mymryn lleiaf ymhellach buaswn wedi cyffwrdd y Southern Cross a'r sêr eraill.




cysylltiadau




awstralasia

Awstralia
Tair Cymraes yn Awstralia

Myfyrwyr o Gymru ar fusnes yn Awstralia

Rhyfeddodau Awstralia

Gethin yn Awstralia

Taith Gethin - Adventure Bay, Ynys Bruny, Tasmania

Gethin yn Awstralia - enwau lleoedd

Y Cymro a chwch yr anialwch

Ffordd y carcharorion

Aur a'r Gair yn Awstralia

Beks yn Awstralia

Nadroedd, pryfed cop - a help dyn!

Dathlu a hel atgofion

Awstralia - a chip ar Bali - efo Gwenan Roberts

Hen fuwch o gar - a chyfaill da

Awstralia - gair o gyngor

Rhwng drain a defaid

Ysgoloriaeth i Awstralia a Seland Newydd




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy