|
|
Y Cymro a chwch yr anialwch
'Mordaith' ryfeddol trwy ganolbarth Awstralia!
|
gan Gethin Matthews Pan yn teithio ar draws Awstralia, mae rhywun yn dod i werthfawrogi ehangder y wlad. Gall fod yn brofiad digalon gyrru trwy wres yr haul am bum awr ac yna edrych ar y map a gweld ichi deithio hanner modfedd!
Mae trigolion Awstralia yn cymryd y pellterau mawr yn ganiataol ac ni fyddai cyfeillion Awstralaidd yn meddwl dim o yrru am awr a hanner i gyrraedd rhywle dymunol er mwyn cael coffi.
Amser dŵr a phetrol I rywun â chanddo ddigon o amser ar ei ddwylo - a digon o ddŵr i'w yfed yn y car a llond tanc o betrol - mae yna rywbeth cysurus mewn gyrru trwy'r anialwch.
Mae'r tirwedd yn ddieithr ac yn drawiadol, mae siawns gweld anifeiliaid anghyfarwydd ac mae'r teimlad o ryddid yn gallu bod yn hudol ar y gwastatir eang.
Ond dychmygwch y profiad o deithio'r wlad cyn iddi gael ei mapio.
Môr yn y canol Er ei fod yn ymddangos yn syniad gwallgof nawr, cyn i Awstralia gael ei harchwilio credai llawer o ddaearegwyr bod yna fôr mawr yn gorwedd yng nghanol y cyfandir.
Onid oedd yn rhaid i'r afonydd nad oeddent yn rhedeg i'r Môr Tawel fynd i rywle?
Awgrymodd rhai mapwyr y syniad gobeithiol fod rhyw fath o "Fôr y Canoldir" yn aros i gael ei ddarganfod yng nghanol y cyfandir.
Felly, wrth iddo drefnu ei fenter i archwilio canol Awstralia yn 1844 penderfynodd Charles Sturt recriwtio dau forwr i'w helpu ar ei daith.
Un ohonynt oedd James Lewis o Dyddewi, mab i wneuthurwr clociau yn y ddinas - ac fel mae'n digwydd, enw Cymraeg oedd gan y morwr arall hefyd, David Morgan, er does dim gwybodaeth am ei wreiddiau ef.
Nifer o anturiaethau Ganwyd Lewis tua'r flwyddyn 1813 ac fe aeth i'r môr yn llanc, gan gyrraedd dinas newydd Adelaide yn Ne Awstralia ym 1837.
Wedi iddo sefydlu ei hunan yno, cafodd nifer o anturiaethau, gan gynnwys gyrru cert ar gyfer taith i'r anialwch ym 1842.
Felly, roedd ganddo'r cymwysterau iawn ar gyfer menter Sturt, ac fe'i dewiswyd allan o dri chant a ymgeisiodd i fod yn aelod o'r tîm.
Gadawodd y fenter Adelaide yng nghanol Awst 1844, gan anelu tua'r gogledd-ddwyrain gyda'r bwriad o gyrraedd union ganol y cyfandir.
Roedd ganddynt 11 o geffylau a dau gart a 30 o ychain i gario tair wagen o nwyddau a'r cwch 27 troedfedd ar ei cherbyd ei hunan.
Roedd 16 o anturiaethwyr yn y parti, dau o frodorion i'w tywys a chwech o gŵn i warchod y 200 o ddefaid a oedd i fwydo'r criw.
Mae'n siŵr bod yr orymdaith yn ymlwybro drwy sychder yr anialwch yn olygfa heb ei hail.
Gwres llethol Ni fydd yn syndod deall na ddefnyddiwyd cwch James Lewis o gwbl ar ôl ei llusgo drwy'r sychdir.
Roedd y gwres yn llethol a'r thermometrau o Loegr ond yn mesur gwres hyd at 127 °F (53 °C).
Roedd y gwres yn y cysgod hyd yn oed yn uwch na hynny'n aml.
Ddechrau Ionawr 1845 fe gyrhaeddo nhw lecyn a oedd ag ychydig o ddŵr ac fe'u caethiwyd yno am chwe mis gan nad oedd unrhyw ddŵr arall i'w gael ymlaen nac yn ôl.
Dioddefodd pob un o'r sgyrfi a bu farw un o'r fintai ac yr oedd yn ddechrau 1846 cyn i'r hyn a oedd yn weddill o'r criw ddychwelyd i Adelaide, wedi dioddef llawer ond heb fawr ddim o wobr.
Amgueddfa fechan Mae amgueddfa fechan i gofnodi ymdrechion Charles Sturt, yn y bwthyn cyffyrddus a adawodd i deithio i'r anialwch.
Mae yno ddarn bychan o'r cwch a gafodd ei lusgo o gwmpas canol Awstralia heb ei wlychu unwaith!
Atgof arall o ymdrechion James Lewis yw bryn 1000 troedfedd a enwyd ganddo ar ôl y gŵr o Dyddewi a oedd y cyntaf o'r fintai i'w ddringo - Tachwedd 25, 1844.
Mae'r enw Lewis Hill ar fapiau hyd heddiw, rhyw 60 milltir i'r gogledd o dref Broken Hill.
|
|