大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Rhyfeddodau Awstralia
Mae Lowri Roberts o Lanwddyn newydd ddychwelyd o Awstralia yn dilyn ymweliad go arbennig i'r teulu

Chwefror 2005
Pwy fedrai ddychmygu cael cinio Nadolig yng ngwres yr haul a gweld Santa yn cyfarch plant gan chwysu yng ngwres tanbaid ganol haf?

Koala Dyma'r hyn a welais tra'n ymweld â Awstralia yn ddiweddar!

Cysylltiadau teuluol
Mae fy mrawd Llewelyn wedi byw yn Melbourne ers chwe blynedd ar ôl ymfudo o Gymru gyda'i gariad a oedd yn dod o Awstralia.

Roedd hyn yn brofiad hiraethus yn enwedig i mam, ond eleni aeth fy nheulu a minnau drosodd i'w weld am y tro cyntaf erioed gan ei fod yn priodi.

Fy mrawd (chwith) gyda chyfaill iddoMae'n rhaid cyfaddef fod y daith i Awstralia yn un hynod o hir - rhyw ugain awr - ac nid oedd Mam druan wedi bod yn agos at awyren erioed o'r blaen heb sôn am hedfan i ben draw'r byd.

Ond wedi'r holl boeni am fisoedd cyn y daith fe fwynhaodd y daith ar y cyfan - diolch byth!

Er syndod mawr i mi Dad, nid Mam, oedd yr un a oedd yn gafael yn dynn yn ystod adeg o dyrbiwlans!!

Gwlad Enfawr!
Mae Melbourne ar arfordir de-ddwyrain y wlad yn Victoria, talaith leiaf Awstralia.

Er ei bod yn anodd i'w gweld ar y map, wrth deithio o gwmpas mae'n anodd credu pa mor eang yw'r wlad a pha mor bell yw'r holl ddinasoedd oddi wrth ei gilydd.

I roi syniad i chi, pan laniodd ei hawyren ar ochr orllewinol y wlad tybiais ein bod bron wedi cyrraedd ond bu'n bum awr arall cyn inni lanio ym Melbourne ac y sylweddolais pba mor enfawr yw'r wlad o'i chymharu â'r Deyrnas Unedig.

Mae'n cymryd oes i gyrraedd, ond mae'n wlad anhygoel sy'n haeddu'r holl ymdrech o deithio.

Profiadau Bythgofiadwy!
Buom yn Awstralia am dair wythnos ac yn yr amser hwnnw gwelsom lawer o bethau na welsom erioed o'r blaen.

Tŵr RialtoAethom i'r ddinas i weld CBD Melbourne ac roedd hyn yn brofiad anhygoel i mi! Yr haul yn ddisglair a'r awyr yn las a'r holl adeiladau'n edrych yn iach ac yn llewyrchus, nid fel y gwelwn adref ar ddiwrnod gwlyb yng nghanol gaeaf!

Yr adeilad uchaf yn Melbourne yw'r Rialto Tower ac mae'n bosib i chi ymweld â'r llawr uchaf er mwyn gweld yr olygfa drawiadol o'r ddinas oddi tanoch.

Mae'n cymryd rhyw 60 eiliad i gyrraedd y lle gwylio ac wrth fynd i fyny mae eich clustiau yn gwneud sŵn "pop" fel mewn awyren.

Gallwch weld y trac fformiwla un ac afon Yarra a'r holl adeiladau crand.

Mynedfa i'r Great Ocean Road Ger yr afon a'r ardal a elwir yn South Gate mae'r Crown Casino, adeilad moethus o siopau drud fel Gucci.

Ond hyd yn oed os yw pethau felly braidd yn ddrud, mae'n werth mynd i mewn dim ond er mwyn cael cerdded drwy'r Casino a gweld yr holl oleuadau a'r holl bobl gyfoethog wrthi'n gamblo wrth y byrddau.

Efallai fe welwch un o sêr enwog y byd pêl-droed fel y gwnaeth fy mrawd wrth gyfarfod Phill Neville o dîm Manchester United!

Bywyd gwyllt
Yn ogystal â gweld golygfeydd y ddinas, roeddwn yn awyddus iawn i weld bywyd gwyllt y wlad ac ychydig o gefn gwlad.

Mam yn cyffwrdd neidr Gwelais y ddau yn Heallsville Sanctuary, rhyw awr a hanner o'r ddinas lle mae cangarŵs, nadroedd, koalas, dingos a phob math o greaduriaid.

Ond mae'n rhaid cyfaddef mai'r peth gorau i mi oedd cyffwrdd Walabi bach diniwed!

Dwi'n siwr y cytunwch nad oes posib anwybyddu traethau hardd a moroedd tryloyw y wlad, felly am dri diwrnod aethom i lawr i'r Great Ocean Road, ffordd sy'n dilyn yr arfordir gyda golygfeydd gwefreiddiol lle gwelsom Koalas bach gwylltion yn y coed!

Ond y peth gorau i mi wrth fynd at y môr oedd mynd ar y boogie board sydd yn debyg i surfboard bach - cefais gymaint o hwyl wrth wibio ar y tonnau cryfion!

Deuddeg Apostol Yn sicr, y peth gorau i Mam oedd mynd at y Twelve Apostles a gweld y cewri o gerrig yn sefyll yn urddasol yng nghanol y môr.

Mae digonedd o lefydd i'w weld ar hyd y Great Ocean Road ond os ewch chi yno buaswn yn eich hannog chi fynd i Lorne ac Anglesea gan fod traethau gwych yno a digonedd o lefydd i fwyta. Hefyd gallwch wylio digonedd o fechgyn yn syrffio!

Traeth BrightonYn wir, mae Awstralia yn wlad werth chweil gyda phobl gyfeillgar a golygfeydd bythgofiadwy.

Yn y dyfodol agos bwriadaf fynd yno eto i weld fy mrawd a'i wraig ac i deithio o amgylch y wlad er mwyn darganfod mwy.

Heb amheuaeth buaswn yn annog pawb i fynd yno i ryfeddu at ysblander y wlad. Byddaf yn cofio'r daith hon am weddill fy oes.




awstralasia

Awstralia
Tair Cymraes yn Awstralia

Myfyrwyr o Gymru ar fusnes yn Awstralia

Rhyfeddodau Awstralia

Gethin yn Awstralia

Taith Gethin - Adventure Bay, Ynys Bruny, Tasmania

Gethin yn Awstralia - enwau lleoedd

Y Cymro a chwch yr anialwch

Ffordd y carcharorion

Aur a'r Gair yn Awstralia

Beks yn Awstralia

Nadroedd, pryfed cop - a help dyn!

Dathlu a hel atgofion

Awstralia - a chip ar Bali - efo Gwenan Roberts

Hen fuwch o gar - a chyfaill da

Awstralia - gair o gyngor

Rhwng drain a defaid

Ysgoloriaeth i Awstralia a Seland Newydd




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy