大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Gwenan yn mwynhau dyfroedd Wet 'N Wild! Awstralia - a chip ar Bali - efo Gwenan Roberts
Treuliodd Gwenan Roberts a'i chariad, Ian, fis yn teithio o amgylch Awstralia gan deithio o Sydney ar hyd arfordir Dwyrain Awstralia i Carins ac yna i Darwin - ac aros noson yn Bali.

Dyddiadur Gwenan Dydd Mawrth, Medi 10, 2002
Glanio yn Denpasar, Bali ar ôl hedfan ers bedwar pnawn Llun - 18 awr gydag arhosiad sydyn yn Bangkok).

Wedi casglu ein sachau teithio trwm o'r cludfelt dyma fentro allan o'r maes awyr. Wel am sioc o weld torf o ddynion yn erfyn arnom i gymryd tacsi ganddynt rhywbeth sydd yn brin iawn yng Nghymru, neu ym Mwllheli ar nôs Sadwrn beth bynnag!

Ar ôl setlo mewn gwesty moethus yn ardal Sanur - sbwylio ein hunain gan ein bod efo mis o hosteli o'n blaenau! - aethom am bryd o fwyd.

Gan fod Bali yn ynys mor dlawd, mae popeth yn rhad iawn yno gyda pryd dau gwrs yn cynnwys diodydd yn £5.

Roeddwn yn teimlo fel miliwnydd yno ac yn mynnu rhoi tip' i'r gweithwyr - credwch fi mae hyn yn achlysur anarferol iawn ym mywyd cyn fyfyrwraig!

Dydd Mercher, Medi 11, 2002
Cofio trychineb Efrog Newydd a ddigwyddwyd flwyddyn yn ôl i heddiw ond diflannodd ein pryderon yn sydyn o fod mewn gwlad Fwslim a thrwy ymlacio ar y traeth a siarad gyda phobl cyfeillgar Bali.

Gan fod y tywydd yma mor boeth, yn anffodus nid oedd fy hufen haul (ffactor 25) yn ddigon cryf i atal llosgi a mae fy nghoesau rwan yn debyg iawn i liw lobstar!

Hedfan heno i Sydney.

Dydd Iau, Medi 12, 2002
Mae tywydd Sydney i'w deimlo'n oer o'i gymharu â gwres tanbaid Bali!

Aethom i Circular Quay - harbwr lle mae'r cychod yn hwylio i lefydd fel y Parc Olympaidd, Darling Harbour, Manly, a.y.y.b - i weld y Ty Opera a'r bont enwog.

Rydym yn aros yn ardal Coogee am dair noson, sydd ychydig o ganol y ddinas ond yn lle derfrydol i bobl fel ni sy'n trio arbed arian wrth deithio, gan fod digon o hosteli a bwytai rhad yma hefyd mae'r traeth yn braf ond heb fod mor brysur a Bondi.

Dydd Llun, Medi 16, 2002
Wedi teithio deuddeng awr neithiwr ar fws i gyfeiriad y gogledd, dyma gyrraedd Byron Bay. Mae gan y dref gymysgedd o deithwyr, yn cynnwys brigdonwyr, arlunwyr, bacpacwyr - a nifer fawr o hipis!

Gan nad oes llawer o atyniadau i ymweld â hwy rydym am ymlacio tan ein taith nesaf i Surfers Paradise.

Dydd Sadwrn, Medi 21, 2002
Mae digonedd o bethau i'w gwneud yn Surfers Paradise i rai o bob oed - . parciau fel Sea World, Movie World, Wet n' Wild a.y.y.b.

Heddiw buom yn Dreamworld, parc efo sw, reidiau cyffrous ond, yn fwy diddorol, dyma lle mae ty Big Brother Awstralia.

Yn wahanol i'r un Prydeinig, mae modd mynd i mewn iddo a busnesu ym mhob ystafell!

Yfory, rydym am deithio i Brisbane i ymweld a'r Lone Pine Koala Sanctuary - gyda'r gobaith o gael gweld ambell gangarw yno hefyd! - ac yn hwyrach, symud ymlaen i Airlie Beach.

Ian yn paratoi i ddeifio scwbaDydd Gwener, Medi 27, 2002
Rydym newydd gyrraedd yn ôl o daith ffantastig i ynysoedd y Whitsundays, ar y Great Barrier Reef.

Aethom gyda'r cwmni Pride of Airlie sydd yn arbenigo ar ddarparu ar gyfer pobl ifanc. Yn gyntaf i draeth hyfryd Whitehaven. Gyda'r rhan fwyaf o'r tywod ar y traeth yn wydr mân ac yn wyn fel eira o bell.

Roeddem yn aros dwy noson ar Ynys hyfryd South Molle, ond yn hwylio allan i'r môr yn ddyddiol i snorclo a deifio scwba profiad gwych!

Yfory, byddwm yn trafeilio i Cairns, ac yn mynd ar wibdeithiau i weld mwy o'r Great Barrier Reef.



Diwrnod mentrusDydd Iau, Hydref 3, 2002
Wedi cael amser da yn Cairns yn gwneud amrywiaeth o bethau fel mynd mewn car cebl dros fforest law a gweld cynfrodorion yn dawnsio a chanu.

Rydym nawr yn Darwin, tre' boeth ofnadwy a hithau reit yng ngogledd Awstralia.

Gan deimlo'n eithaf mentrus, aethom i Barc Litchfield a dal cwch ar hyd yr afon.

Dim byd yn fentrus yn hynny medda chi, ond cofiwch fod yr afon yma yn llawn crocodeilod llwglyd!! Gwych oedd eu gweld yn nofio'n slei tuag at y cwch ac yn neidio allan o'r dwr i gipio darn o gig gan un o'r gweithwyr.

Dydd Sul, Hydref 6, 2002
Wedi ffarwelio ag Awstralia ac yn ôl yn Bali a'r tro hwn mewn ardal wahanol, Kuta . Dyma San Antonio neu Ayia Napa Awstraliad ifanc.

Mynd o gwmpas y dre yn siopia heddiw ond doedd gen i ddim calon fargeinio gan fod popeth mor rad beth bynnag!

Hedfan yn ôl i Gymru fach heno gydag atgofion melys iawn o'r daith, a thrio paratoi ein hunain ar gyfer realiti ein bywyd bob dydd.

i eraill sy'n bwriadu mynd




cysylltiadau


awstralasia

Awstralia
Tair Cymraes yn Awstralia

Myfyrwyr o Gymru ar fusnes yn Awstralia

Rhyfeddodau Awstralia

Gethin yn Awstralia

Taith Gethin - Adventure Bay, Ynys Bruny, Tasmania

Gethin yn Awstralia - enwau lleoedd

Y Cymro a chwch yr anialwch

Ffordd y carcharorion

Aur a'r Gair yn Awstralia

Beks yn Awstralia

Nadroedd, pryfed cop - a help dyn!

Dathlu a hel atgofion

Awstralia - a chip ar Bali - efo Gwenan Roberts

Hen fuwch o gar - a chyfaill da

Awstralia - gair o gyngor

Rhwng drain a defaid

Ysgoloriaeth i Awstralia a Seland Newydd




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy