大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Seibiant yn Sydney Myfyrwyr o Gymru ar fusnes yn Awstralia
Rhodri Gravell, Mili Mererid, Lyndsey Jones, David Morris, Alex Jones a Ryan Weir o Goleg Meirion Dwyfor, Dolgellau, yn sôn am eu camp yn dod yn drydydd yn y byd gyda chynllun busnes yn ymwneud ag arbed dŵr.



Fel myfyrwyr Astudiaetrhau Busnes yng Ngholeg Meirion Dwyfor yr oeddem wrth ein boddau cael ein dewis i gynrychioli'r coleg yn ffeinal Gymreig y Global Enterprise Challenge yng Nghaerdydd ddiwedd Chwefror.

Clwb busnes
Fe'n dewiswyd oherwydd ein hymrwymiad i'r Clwb Busnes gwirfoddol sy'n cyfarfod unwaith yr wythnos yn y coleg.

Fel aelodau gweithgar ohono, a'n gobeithion i fod â'n cwmnïau ein hunain rhyw ddiwrnod, yr oeddem yn benderfynol o wneud yn dda ac yn hyderus o gofio mai'n coleg ni fu'n fuddugol yng Nghaerdydd y llynedd.
Ac fe dalodd ein dycnwch ninnau eleni!

Gweithio ar y cynllunTrefnir y gystadleuaeth gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae'n golygu sy'n golygu gwaith tîm, llunio cynllun busnes a gwneud cyflwyniad - i gyd o fwewn pedair awr ar hugain.

Yr her benodol eleni oedd:
Creu cynnyrch neu wasanaeth a fyddai'n llenwi bwlch penodol yn y farchnad o fewn eich ardal chi.

Gyrru gwell
A'n syniad ni oedd creu busnes di-elw mewn lle cyfleus i wella sgiliau gyrru pobl ifainc ar ffyrdd culion cefn gwlad ac yn ystod tywydd garw gan ymgorffori gwybodaeth am eco-danwydd a cheir gwyrdd.

Doedd y dewis ddim yn un anodd o gofio inni golli dau gyfaill o'r coleg y llynedd a'n bod yn adnabod nifer o o rai eraill a fu mewn damweiniau.



Gyda chyfeillion o SiapanYn dilyn llwyddiant Caerdydd yr oeddem wedi gwirioni'n lân sylweddoli mai yn Sydney, Awstralia, yr oedd y rownd derfynol fydeang a chyda chymorth y Cynulliad ac Ymddiriedolaeth Peter Saunders o Dywyn, Meirionnydd yno yr aethom!

Pump y bore
Wedi taith hir cyrhaeddom Sydney hanner awr wedi pump ar fore Sadwrn - gyda'r prawf 24 awr yn dechrau am 11 y bore Sul!

Ond aed a'r gwynt rywfaint o'n hwyliau pan gyhoeddwyd mai paratoi cynllun manwl ac arloesol i leihau'r pwysau ar adnoddau dŵr oedd y dasg.

Gan fod dŵr ymhell o fod yn brin yma yng Nghymru yr oedd meddwl am brinder yn anodd ond yn y diwedd cawsom y syniad o greu cwmni ymgynghori a fyddai'n darparu cyngor ymwybyddiaeth dŵr i ysgolion a busnesau er mwyn creu ymwybyddiaeth arhosol o'r camddefnydd sydd yna o un o adnoddau pwysicaf y byd.

Yn drydydd
Y prif nod o fewn ein cynllun oedd sicrhau fod y Cynulliad yn cynnwys ar y cwricwlwm addysg bwysigrwydd bod yn ddarbodus gyda dwr fel bo dwr sy'n cael ei wastraffu ar gael ar gyfer lleoedd eraill lle mae ei fawr angen.

Yn dilyn ymchwil marchnad a dadansoddiad ariannol lluniwyd cynllun busnes a sylfaenu ein cyflwyniad ar ddigwyddiad yn ystafell ddyddiadur Big Brother!

Yr oeddem wrth ein boddau pan gyhoeddwyd am hanner nos ddydd Llun inni ddod yn drydydd drwy'r byd i gyd - gyda Seland Newydd ac Awstralia yn gyntaf ac yn ail!

  • Gellir gweld manylion ein cynlluniau a'n cyflwyniadau (Gwefan Saesneg)



  • cysylltiadau


    awstralasia

    Awstralia
    Tair Cymraes yn Awstralia

    Myfyrwyr o Gymru ar fusnes yn Awstralia

    Rhyfeddodau Awstralia

    Gethin yn Awstralia

    Taith Gethin - Adventure Bay, Ynys Bruny, Tasmania

    Gethin yn Awstralia - enwau lleoedd

    Y Cymro a chwch yr anialwch

    Ffordd y carcharorion

    Aur a'r Gair yn Awstralia

    Beks yn Awstralia

    Nadroedd, pryfed cop - a help dyn!

    Dathlu a hel atgofion

    Awstralia - a chip ar Bali - efo Gwenan Roberts

    Hen fuwch o gar - a chyfaill da

    Awstralia - gair o gyngor

    Rhwng drain a defaid

    Ysgoloriaeth i Awstralia a Seland Newydd




    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy