|
|
Nadroedd, pryfed cop - a help dyn!
Bu Sarah Marion Jones sy'n dod o Lanbedrog ger Pwllheli yn teithio yn Awstralia efo Lisa Charles o Lanuwchllyn a Sian Jones o'r Frongoch ger Y Bala. Dyma ail erthygl Sarah.
|
Nadroedd a phryf cop Wrth gerdded allan o'r caban yn meddwl am fy mrecwast bu bron imi a rhoi fy nhroed ar glamp o neidr fawr hyll.
Red Belly Snake oedd hi - neidr ddu, folgoch - un o'r rhai mwyaf gwenwynig yn Awstralia.
Roeddem ein tair - Lisa, Sian a minnau - wedi hurtio'n lân ac yn sgrechian am i Glen ddod i'n helpu.
Rhedodd yntau atom yn ei byjamas efo rhaw yn ei law.
Wyddwn i ddim fod modd torri pen neidr i ffwrdd efo rhaw o'r blaen ond mae'n siwr fod Glen wedi cael digon o ymarfer gan inni weld dipyn mwy o'n cyfeillion bach newydd yn ystod y dyddiau canlynol!
Gweithio am ein lle Roeddem ein tair yn aros yn Secluded Springs, fferm Glen a Sue ger Bundaberg.
Gweithio am ein llety oeddem ni - tair awr bob bore am le i aros mewn caban pwrpasol wrth ochr llyn ac yn cael helpu'n hunain i bopeth oedd yn tyfu yn yr ardd: melons, passionfruit, pinafal, chillies, pupur coch, pumpkins.
Mae dinas Bundaberg ar arfordir Queensland. Dyma bwynt mwyaf deheuol y Great Barrier Reef gyda miloedd o deithwyr prin o arian yn heidio yno yn y gobaith o gael gwaith ar y ffermydd ffrwythau a llysiau.
Siwgwr yw'r prif gnwd ac amser y cynhaeaf mae prysurdeb mawr gyda'r cane-train yn cludo cynnyrch y ffermwyr i'r gweithfeydd cyfagos i gael ei drin.
Rum & Coke ar dâp! Cynhyrchir y rum enwog Bundy yma a dyma'r tro cyntaf i mi weld Rum a Coke ar dap mewn tafarn.
Roedd ein gwaith yn amrywio o warchod Sophia, merch ddwyflwydd, afresymol, Glen a Sue, i lanhau eu ty a helpu Glen beintio rhai o'i beiriannau yn barod ar gyfer eu gwerthu.
Nid nadroedd yw'r unig bethau peryg yn Secluded Springs. Un noson ymwelodd pry-cop Huntsman â ni.
"Hitia fo" Mae'r creadur blewog, du, yma gymaint â fy llaw felly gallwch ddychmygu ofn a dychryn y tair merch yn ei gwmni!
Gafaelodd Sian mewn brwsh llawr a Lisa mewn chwistrell lladd pryfetach er mwyn cornelu'r bwystfil.
Fy nghyfraniad i oedd sefyll ar ben y gwely yn gweiddi pethau fel "Hitia fo!" "Rwan!!".
Colbiwyd y copyn. A ninnau'n tair yn go falch inni fedru dygymod a'r sefyllfa heb help dyn. Sarah Marion Jones
|
|