大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Ffordd y carcharorion Ffordd y carcharorion
Erthygl olaf Gethin Matthews yn dilyn ei ymweliad ag Awstralia

Mae creiriau hynod i'w gweld yn ardal afon Hawkesbury.
Er nad yw ond awr a hanner o ganol Sydney, does dim llawer o ymwelwyr yn cael eu denu i weld y rhyfeddodau hyn.

Wedi eu cuddio yng nghanol y bush, ymhell i ffwrdd o briffyrdd modern prysur, gellir gweld olion un o'r prosiectau mawr sy'n mynd yn ôl i ddyddiau cynnar y drefedigaeth.

Wedi'i gorchuddio gan ddegawdau o dyfiant, mae hen ffordd a adeiladwyd gan garcharorion yn y1820au a'r 1830au.

Tiroedd ffrwythlon
Dyma'r heol a gysylltai yr ardaloedd i'r gorllewin o Sydney â'r tiroedd ffrwythlon yn nyffryn Hunter, ac ymlaen at borthladd Newcastle, 150 milltir i'r gogledd.

Y cerrig a gloddwydTorrodd y carcharorion y graig yn flociau, a'u gosod i wneud ffordd drwy'r tir gwyllt ac mae olion y picelli a ddefnyddiwyd yn amlwg ar y blociau hyd heddiw.

Fan hyn a fan draw yn y bush gwelir olion y gwersyll lle daliwyd y carcharorion wrth iddynt adeiladu'r heol.

Ymhellach i lawr y dyffryn, mae pentref bychan St Albans, a sefydlwyd nôl ym 1842.

Fan hyn mae bedd ag arno enw Price Morris, un o'r anffodusion a gafodd ei ddanfon i'r drefedigaeth mewn cadwyni.

Ei garreg fedd Ac yntau ond o gwmpas ei ugain oed, cafwyd Morris yn euog yn y llys yn Nhrefaldwyn ym 1810 o ddwyn 11 o ddefaid oddi ar ffarmwr yng Ngharno.

Dedfryd y llys oedd iddo gael ei grogi, ond maes o law fe gafodd ei gosb ei newid i alltudiaeth am ei oes ac fe hwyliodd o Lundain ym Medi 1811 a chyrraedd De Cymru Newydd yr Ionawr canlynol.

Fel carcharor bu'n rhaid i Price ofyn caniatâd i briodi ym 1818.

Cafodd ei ryddhau yn amodol ym 1833.

Mae dros ugain mlynedd yn dipyn o gosb am ddwyn 11 o ddefaid.



Olion gwersyll carcharorionWedi iddo gael ei ryddid, cafodd rhywfaint o lwyddiant yn ei gartref newydd, gan ddod yn berchen ar fferm ger St Albans a magu teulu mawr, gydag o leiaf chwech o blant.

Lloegr fechan
Ond, wrth gwrs, wrth i'r trefedigaethwyr newydd feddiannu'r tir collodd y brodorion gwreiddiol y mannau lle'r oeddent yn hela a chasglu ers cannoedd o genedlaethau.

Disodlwyd yr enwau cynhenid nes bod y wlad o gwmpas St Albans, Windsor a Richmond yn ymddangos fel Lloegr fechan.

Un o ddarluniau'r brodorion Ond mae'n bosibl gweld o hyd y mannau lle gadawodd y brodorion eu hôl ar y wlad.

Fe gês i fy nhywys i le cyfrin hanner awr i o'r lle agosaf i barcio'r car.

Wedi'u darlunio ar waliau ogof mewn powdwr coch mae lluniau o echidna a dingo, a nifer o anifeiliaid eraill.

Mae'n anodd rhoi dyddiad pendant i'r gwaith ond mae'r sercol mewn tân gwersyll gerllaw wedi'i ddyddio i 1440 OC.

Ond gallai'r lluniau berthyn i gyfnod ganrifoedd ynghynt.

Pa hawl
Am sawl rheswm mae ymwelydd o Gymru'n oedi cyn ysgrifennu am ddiwylliant brodorion Awstralia, yr Aborigines.

Pa hawl sydd gen i, sydd ond wedi cwrdd â llond dwrn o unigolion - pob un â chysylltiad â thwristiaeth - i ymhelaethu am bobl sydd mor amrywiol?

I droi'r sefyllfa ar ei phen am eiliad; sut y gallai unrhyw un ysgrifennu am ddiwylliant Cymru ac yntau ond wedi cwrdd â Chymry oedd yn rhedeg busnesau gwely-a-brecwast?

Agweddau yn newid
Yr hyn sy'n ddiogel imi y'i ddweud yw bod agweddau'r Awstraliaid gwyn eu croen yn newid bellach.

Un arall o ddarluniau'r brodorion Ar ôl cael eu diystyru a'u cau allan am genedlaethau, mae'r brodorion cynhenid, eu hawliau a'u traddodiadau yn dechrau cael eu parchu a'u gwerthfawrogi.

Bob tro y bydd adeilad cyhoeddus yn cael ei godi, bydd y seremoni agoriadol yn cydnabod cyfraniad y llwythau lleol a fu'n geidwaid y tir am gynifer o genedlaethau.

Y tristwch mawr yw bod y gydnabyddiaeth yma'n dod yn rhy hwyr i achub y rhan fwyaf o'r ieithoedd a'r diwylliannau a oedd unwaith yn ffynnu ar hyd a lled y wlad enfawr hon, ond sydd bellach ond ar gael mewn llyfrau, i ddarllen amdanynt.





cysylltiadau
Erthyglau eraill Gethin

awstralasia

Awstralia
Tair Cymraes yn Awstralia

Myfyrwyr o Gymru ar fusnes yn Awstralia

Rhyfeddodau Awstralia

Gethin yn Awstralia

Taith Gethin - Adventure Bay, Ynys Bruny, Tasmania

Gethin yn Awstralia - enwau lleoedd

Y Cymro a chwch yr anialwch

Ffordd y carcharorion

Aur a'r Gair yn Awstralia

Beks yn Awstralia

Nadroedd, pryfed cop - a help dyn!

Dathlu a hel atgofion

Awstralia - a chip ar Bali - efo Gwenan Roberts

Hen fuwch o gar - a chyfaill da

Awstralia - gair o gyngor

Rhwng drain a defaid

Ysgoloriaeth i Awstralia a Seland Newydd




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy