Drwy astudio sbectra amsugno atomig, gallwn ni ganfod cyfansoddiad cemegol s锚r. Mae hyn yn dangos bod galaethau'n symud oddi wrthyn ni mewn Bydysawd sy'n ehangu.
Edrychodd Edwin Hubble ar y golau o alaethau pellach oddi wrth y Ddaear a sylwodd fod y llinellau amsugno tywyll yn dangos rhuddiad mwy. Ei gasgliad oedd bod gan y galaethau pell ruddiad mwy oherwydd eu bod yn symud i ffwrdd yn gyflymach.
Defnyddiodd Hubble y rhuddiad i gyfrifo cyflymder galaethau o'i gymharu 芒'u pellter oddi wrth y Ddaear.
Pan roddodd y data mewn graff, roedd yn dangos llinell syth drwy'r tarddbwynt.
Mae hyn yn dangos bod cyflymder galaeth mewn cyfrannedd union 芒'i phellter oddi wrth y Ddaear. Mewn geiriau eraill, os yw pellter yr alaeth oddi wrthyn ni'n dyblu, mae ei cyflymder enciliolY cyflymder oddi wrth yr arsyllydd. hefyd yn dyblu.
Dyma Ddeddf Hubble.
Cysonyn Hubble 鈥淗鈥 yw graddiant y graff. Mae \(\frac{1}{\text{H}}\) yn rhoi oed y Bydysawd 鈥 yr amcangyfrif presennol yw tuag 13.7 biliwn o flynyddoedd.
Gan fod y cyflymder enciliol yn cynyddu gyda phellter yr alaeth, mae'n awgrymu bod yr holl alaethau wedi tarddu o un pwynt.