大象传媒

Llinellau Fraunhofer

Dyfeisiodd y ffisegydd o'r Almaen, Joseph von Fraunhofer (1787鈥1826), ddyfais o'r enw sbectrosgop oedd yn cynnwys gratin diffreithiant. Wrth ddefnyddio'r ddyfais hon i ddadansoddi'r golau o'r Haul, gwelodd linellau tywyll ar sbectrwm di-dor. yw'r rhain.

Diagram yn dangos llinellau Fraunhofer - llinellau tywyll ar sbectrwm di-dor.

Rydyn ni nawr yn gwybod mai llinellau amsugno yw'r llinellau tywyll hyn. Ond sut maen nhw'n cael eu cynhyrchu, a beth maen nhw'n ei ddangos i ni?

Mae'r Haul a s锚r eraill yn cynhyrchu golau ar bob tonfedd. Wrth i'r golau fynd drwy'r atmosffer allanol oerach, mae atomau nwy yn amsugno rhai tonfeddi o'r golau, gan gynhyrchu sbectrwm llinellau amsugno sydd i'w weld o'r Ddaear.

Roedd gwyddonwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gallu cymharu'r llinellau tywyll hyn 芒 sbectra llinellau allyrru'r elfennau roedden nhw'n gwybod amdanynt, a chanfod pa elfennau oedd yn yr atmosffer oerach.

Alli di weld Sodiwm (Na), Haearn (Fe), Calsiwm (Ca) a Magnesiwm (Mg)?

Sbectra llinell allyru amrywiaeth o elfennau cyffredin.

Question

Os ydyn ni'n archwilio'r golau o gwmwl nwy (nifwl) pell, gallwn ni weld sbectrwm llinellau amsugno. Mae sbectra llinellau allyrru Hydrogen (H), Mercwri (Hg) a Neon (Ne) wedi'u dangos. Pa un o鈥檙 elfennau hyn sydd yn y cwmwl nwy?

Uchod mae sbectra allyru Hydrogen, Mercwri a Neon. Isod, mae sbectrwm amsugno o鈥檙 cwmwl nwyon.