大象传媒

Rhuddiad cosmolegol y golau o alaethau

Mae symudiad yn gallu ymestyn neu gywasgu tonfeddi sain a golau.

Er enghraifft, os yw ambiwlans yn teithio tuag at arsylwr, bydd yn clywed traw uwch 鈥 nodyn ag amledd uwch. Mae y sain yn cael ei chywasgu gan symudiad yr ambiwlans tuag at yr arsylwr.

Fodd bynnag, pan mae'r ambiwlans yn mynd oddi wrth yr arsylwr, mae'n clywed traw is 鈥 nodyn ag amledd is. Mae tonfedd y sain yn cael ei hymestyn gan y symudiad oddi wrth yr arsylwr.

Fydd gyrrwr yr ambiwlans ddim yn clywed gwahaniaeth yn nhraw'r sain. Does dim symudiad cymharol rhyngddo a'r sain.

Diagram yn dangos symudiad Doppler y  tonnau. Mae鈥檙 tonnau鈥檔 symud o鈥檙 dde i鈥檙 chwith. Maen nhw鈥檔 cael eu hymestyn ar yr ochr dde ac yn cael eu cywasgu ar yr ochr chwith.

Pan mae gwrthrych sy鈥檔 allyrru tonnau'n dechrau symud, mae'r symudiad yn gallu achosi i'r tonnau ymestyn neu gywasgu. yw hyn.

Yn yr un modd, mae tonfeddi golau o wrthrych sy'n allyrru golau yn cael eu hymestyn gan symudiad oddi wrth yr arsylwr. Rhuddiad yw hyn.

Mae tonfeddi golau o wrthrych sy'n allyrru golau yn cael eu cywasgu gan symudiad tuag at yr arsylwr. Dadleoliad glas yw hyn.

Diagram yn dangos tonnau golau. Mae鈥檙 tonnau sy鈥檔 symud oddi wrth y ferch wedi鈥檜 hymestyn a鈥檜 lliwio鈥檔 goch. Mae鈥檙 tonnau sy'n symud tuag at y ferch wedi鈥檜 cywasgu a鈥檜 lliwio鈥檔 las.

Edwin Powell Hubble (1889 鈥 1953)

Portread du a gwyn o'r gwyddonwr Edwin P Hubblu yn ysmygu pibell, ynn gwisgo siaced ac yn eistedd wrth ddesg. Mae ei ben wedi'i droi i edrych ar y camera.

Seryddwr o America oedd Edwin Hubble - rydyn ni'n ystyried mai ef oedd un o gosmolegwyr pwysicaf yr 20fed ganrif.

Sylwodd Hubble fod llinellau sbectra amsugno galaethau yn dangos yr un patrwm 芒 sbectrwm amsugno'r Haul 鈥 yn dangos bod yr un elfennau yn bresennol, ond roedd y llinellau wedi'u symud tuag at ochr goch y sbectrwm gweladwy.

Sylwodd fod y rhuddiad hwn yn golygu bod tonfeddi'r llinellau amsugno tywyll wedi'u hymestyn neu eu gwneud yn hirach.

Ei gasgliad oedd bod y symudiad neu'r ymestyniad hwn yn bodoli oherwydd bod yr yn symud oddi wrthym ni. Mae'r hwn yn digwydd oherwydd bod y bwlch rhwng yr alaeth bell ac arsylwyr ar y Ddaear yn cynyddu, ac mae hyn yn dystiolaeth bod y Bydysawd yn ehangu.